Mae'r SAYH yn ymchwilio ar ôl marwolaeth Abertawe yn nalfa'r heddlu
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dyn yn yr ysbyty ar ôl cael ei gymryd i ddalfa’r heddlu yn Abertawe.
Cafodd y dyn, 55 oed, ei arestio gan Heddlu De Cymru yn dilyn adroddiad o aflonyddwch mewn tŷ yn ardal Brynmill y ddinas tua 10.30am ar ddydd Mawrth 26 o Fawrth. Cafodd ei gludo mewn fan heddlu i orsaf heddlu Canol Abertawe.
Gwaethygodd ei gyflwr yn fuan ar ôl cyrraedd y ddalfa ac wedi iddo beidio ag ymateb, dechreuodd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol roi cymorth cyntaf a CPR a galwyd ambiwlans. Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys ond, yn anffodus, bu farw ychydig yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Yn dilyn atgyfeiriad gorfodol gan Heddlu De Cymru, rydym wedi lansio ymchwiliad sy’n edrych ar amgylchiadau cyswllt y dyn â swyddogion, gan gynnwys y penderfyniadau a’r camau a gymerwyd mewn perthynas â’i gadw ac os gweithredodd swyddogion heddlu, staff a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn unol â polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol.
Rydym wedi casglu cyfrifon gan swyddogion dan sylw ac rydym yn y broses o goladu ac adolygu CCTV o'r ddalfa a fideo a wisgir ar y corff gan swyddogion a fu'n rhyngweithio â'r dyn.
Mae post-mortem wedi digwydd ac mae profion pellach yn cael eu cynnal. Mae'r crwner wedi cael gwybod.
Dywedodd Cyfarwyddwr y SAYH David Ford: “Mae fy nghydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau’r dyn a phawb sydd wedi’u heffeithio gan ei farwolaeth.
“Mae’n bwysig bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i sefydlu’n llawn yr amgylchiadau pan fod rhywun wedi marw yn nalfa’r heddlu neu’n fuan wedyn. Rydym wedi cyfarfod â theulu’r dyn i fynegi ein cydymdeimlad ac egluro ein rôl. Byddwn yn eu diweddaru drwy gydol yr ymchwiliad ynghyd â’r crwner.”