Ein hannibyniaeth a'n llywodraethiant
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon hefyd ar gael mewn fformat 'hawdd i'w ddarllen'
Mae'r rhan fwyaf o swyddogion a staff heddlu yn gwneud swydd anodd gyda'r cywirdeb eithaf ac yn gwneud penderfyniadau anodd mewn amgylchiadau heriol iawn. Fodd bynnag, pan fydd pethau'n mynd o'i le, neu fod yr heddlu yn camddefnyddio'u swyddi trwy gamymddwyn neu lygredd, mae'r cyhoedd yn disgwyl craffu ac atebolrwydd sydd ond yn gallu dod o arolygiaeth annibynnol.
Nid ydym yn rhan o'r heddlu na'r Llywodraeth ac rydym yn gwneud ein holl benderfyniadau yn annibynnol. Mae ein hannibyniaeth yn bwysig i sicrhau bod system gwynion yr heddlu yn cyflawni canlyniadau teg sy'n dal yr heddlu i gyfrif pan fydd pethau yn anffodus yn mynd o'i le.
Rydym yn gwneud hyn trwy:
- godi hyder yn y system gwynion fel bod y cyhoedd am ei ddefnyddio
- sicrhau bod ein gwaith yn ymateb i faterion sy'n effeithio ar hyder y cyhoedd
- defnyddio tystiolaeth o'n gwaith i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol i blismona
Mae Terfysgoedd Brixton a llofruddiaeth Stephen Lawrence yn ddau ddigwyddiad sy'n chwarae rhan arwyddocaol yn ein hanes. Amlygodd y ddau yr angen dybryd am gorff annibynnol i oruchwylio cwynion am yr heddlu; ymchwiliad yr Arglwydd Scarman i Derfysgoedd Brixton ac Ymchwiliad Stephen Lawrence - wedi'i arwain gan y diweddar Syr William Macpherson.