Ein strategaeth a'n perfformiad
Mae gennym gynllun pum mlynedd mewn grym i helpu adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona. Rydym hefyd yn cyhoeddi nifer o adroddiadau eraill sy'n dangos sut rydym yn cyflawni'r nod hwnnw.
![Two black men in discussion](/sites/default/files/styles/535_x_415_focal_/public/homepage-hero/20230329-1080x720-SJ-2365.png.webp?itok=-YxzvQd7)
Mae ein strategaeth, Adeiladu Ymddiriedaeth a Hyder mewn Plismona, yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth trwy ganolbwyntio ar gasglu, blaenoriaethu, rhannu a gweithredu dysgu.
Fel rhan o hyn rydym wedi ymrwymo i bedwar prif amcan:
- Bod pobl yn gwybod am y system gwynion a'u bod yn hyderus wrth ei ddefnyddio.
- Bod y system gwynion yn darparu canlyniadau teg sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n dwyn yr heddlu i gyfrif.
- Mae ein tystiolaeth a'n dylanwad yn gwella plismona.
- Rydym yn sefydliad sy'n cyflawni perfformiad uchel.