Gofyn am wybodaeth
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth gofnodedig a gedwir gan yr IOPC. Efallai ein bod eisoes wedi cyhoeddi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Cyn cyflwyno cais, adolygwch ein Cynllun Cyhoeddi a'n Logiau Datgeliadau (isod), sy'n cynnwys ymatebion yr ydym wedi'u darparu o'r blaen.
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
O dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, gallwch ofyn am wybodaeth am yr effaith a gawn ar yr amgylchedd.
Sut i wneud cais am wybodaeth a gedwir gan yr IOPC
Gallwch wneud cais rhyddid gwybodaeth neu wybodaeth amgylcheddol drwy anfon e-bost atom ar [email protected].
Eich data personol a’r IOPC
Gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddadwy yw data personol. Pryd bynnag y caiff data personol eu prosesu, eu casglu, eu cofnodi, eu storio neu eu gwaredu, mae'n rhaid ei wneud o fewn telerau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a’r Ddeddf Diogelu Data (DPA).
Mae’r cyfreithiau’n nodi’ch hawliau o ran eich gwybodaeth bersonol, sut y dylai sefydliadau gyflawni marchnata uniongyrchol a sut y gallwch gyrchu gwybodaeth gan awdurdodau cyhoeddus. Unrhyw ddata personol yr ydym yn eu cadw, rydym yn eu storio a'u prosesu yn unol â'n Hatodlen Cadw a Gwaredu.
Daeth yr IOPC o dan yDdeddf Cofnodion Cyhoeddus (PRA 1958) yn Ionawr 2018. Edrychwch ar ein Polisi Arfarnu i ddarganfod mwy.
Os dymunwch wneud cais hawliau gwybodaeth, gallwch anfon e-bost at [email protected] â'r wybodaeth a nodir yn yr adran berthnasol isod.
Yr hawl at fynediad
Adnabyddir hyn hefyd yn Gais Gwrthrych am Wybodaeth. Dyma’ch hawl i gael mynediad at y data personol y mae’r IOPC yn eu casglu, eu cadw a’u prosesu amdanoch. Wrth wneud cais gwrthrych am wybodaeth, darparwch yr wybodaeth ganlynol:
- pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- manylion achosion/cwynion/cyfeirnodau apeliadau
- eich enw llawn a’ch cyfeiriad, gan gynnwys unrhyw enwau eraill y gallech fod wedi cael eich adnabod wrthynt (bydd hyn yn ein helpu i nodi’ch holl wybodaeth bersonol a gedwir)
- adnabyddiaeth a phrawf o gyfeiriad
- sut yr hoffech dderbyn yr wybodaeth – er enghraifft drwy e-bost neu bost
Sylwch fod eich hawl mynediad yn rhoi’r hawl i chi dderbyn eich data personol eich hun, yn amodol ar rai eithriadau. Nid yw'r GDPR y DU yn darparu hawl mynediad at wybodaeth bersonol pobl eraill ac nid yw wedi'i gynllunio i roi mynediad i wybodaeth am ymchwiliadau neu gwynion.
Felly, nid yw'n darparu hawl mynediad i ddogfennau, dim ond i wybodaeth a gynhwysir mewn dogfen sy'n gyfystyr â data personol yr ymgeisydd.
Er y byddwn yn cynnal eich hawliau mynediad at wybodaeth fel y nodir gan y gyfraith, rydym yn ystyried ei fod yn wasanaeth cwsmeriaid da i amlygu cyfyngiadau gofyn am wybodaeth yn y modd hwn. Gweler ein polisi sicrhau bod gwybodaeth ar gael i ddysgu am y llwybrau datgelu posibl eraill.
Hawliau gwybodaeth eraill a sut i'w harfer
Wrth wneud cais am hawliau gwybodaeth, rhowch yr wybodaeth ganlynol:
- manylion achosion/cwynion/cyfeirnodau apeliadau
- eich enw llawn a’ch cyfeiriad, gan gynnwys unrhyw enwau eraill y gallech fod wedi cael eich adnabod wrthynt (bydd hyn yn ein helpu i nodi’ch holl wybodaeth bersonol a gedwir)
- dull adnabyddiaeth a phrawf o gyfeiriad - gellir dod o hyd i fanylion adnabod addas ymhellach i lawr y dudalen hon
Hawliau gwybodaeth eraill
Dyma’ch hawl i gael gwybod os yw’r IOPC wedi casglu ac yn cadw unrhyw ran o’ch data personol a sut y byddwn yn eu defnyddio. I gael rhagor o wybodaeth gallwch ddarllen ein Hysbysiadau Preifatrwydd a pholisïau cysylltiedig a chanllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae’r hawl hon yn eich galluogi i gael eich data personol wedi’u cywiro os yw’n anghywir a/neu’n anghyflawn. Nodwch nad yw'r hawl i gywiro yn berthnasol i wybodaeth y bernir ei fod yn ffeithiol wir ar yr adeg y'i cafwyd.
Wrth wneud cais i arfer eich hawl i hawliau unioni, darparwch y canlynol:
- manylion yr wybodaeth y credwch ei bod yn anghywir/anghyflawn a pham y credwch ei bod felly
- yr wybodaeth gywir/gyflawn
Fe'i hadnabyddir hefyd yn 'hawl i'w anghofio', ac mae hyn yn eich galluogi i ofyn am ddileu eich data personol o dan rai amgylchiadau a ragnodir gan y gyfraith. Wrth wneud cais i arfer eich hawl i ddileu, nodwch fanylion pa wybodaeth yr hoffech ei dileu a pham.
Mae gennych yr hawl i ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data. Fodd bynnag, dim ond mewn amgylchiadau penodol a ragnodir gan y gyfraith y bydd hyn yn berthnasol. Wrth wneud cais i arfer eich hawl i gyfyngu ar brosesu, esboniwch pam eich bod am gyfyngu ar brosesu eich data.
Mae hyn yn cyfeirio at eich hawl i dderbyn data personol yr ydych wedi’u darparu i ni, mewn fformat a ddefnyddir yn gyffredin neu a bennir ac i ofyn i ni drosglwyddo’r data hynny i chi neu gorff/rheolwr data arall.
Wrth wneud cais i arfer eich hawl i gludadwyedd data, disgrifiwch y fformat yr hoffech i ni anfon eich data. Sylwch fod yr hawl i gludadwyedd data yn berthnasol i ddata rydych chi wedi'i roi i ni yn unig.
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol, o dan rai amgylchiadau a ragnodir gan y gyfraith. Wrth wneud cais i arfer eich hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data, rhowch y rheswm pam rydych yn gwrthwynebu prosesu eich data.
Dyma eich hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau a wnaethpwyd trwy ddulliau cwbl awtomataidd. Nid yw hwn yn arfer a ddefnyddir ar hyn o bryd gan yr IOPC ar gyfer gwneud penderfyniadau neu broffilio.
Dewiswch un math o hunaniaeth o bob un o'r rhestrau isod.
Prawf o hunaniaeth:
- pasbort (y tudalennau â llun a manylion personol)
- trwydded yrru
- tystysgrif geni
- tystysgrif mabwysiadu
Prawf o gyfeiriad:
Mae'n rhaid i'r dogfennau hyn gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad ac mae'n rhaid eu dyddio o fewn y tri mis diwethaf. Bydd y cyfeiriad hwn yn cael ei ddefnyddio i bostio eich gwybodaeth atoch.
- bil cyfleustod (heb gynnwys bil ffôn symudol)
- cyfriflen banc
- datganiad cerdyn credyd
- bil ffôn llinell dir
- bil treth cyngor
- llythyr gan ganolfan waith yr Adran Gwaith a Phensiynau
- llythyr gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi
- llythyr gan yr Weinyddiaeth Gyfiawnder
- llythyr gan y Swyddfa Gartref
- llythyr gan Asiantaeth Ffiniau'r DU
- llythyr gan yr Ymddiriedolaeth Prawf
- llythyr gan Heddlu
Dylid sganio copïau o'r dogfennau uchod mewn lliw a'u e-bostio at [email protected]. Gellir anfon llungopïau lliw atom drwy'r post. (Nodwch na dderbynnir sganiau na llungopïau du a gwyn)
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth, corff annibynnol y DU sy'n cynnal hawliau gwybodaeth. E-bostiwch: [email protected]k neu ffoniwch: 0303 123 1113.
Logiau Datgeliad
Rydym yn cyhoeddi rhestr o ymatebion rydym wedi’u darparu i geisiadau a wnaed o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Efallai y bydd y wybodaeth yn y logiau o ddiddordeb i chi neu'n rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Darllenwch ein meini prawf datgelu log i ddarganfod sut rydym yn penderfynu a ddylid cynnwys ymateb i gais yn y rhestr hon.