Adolygiadau ac apeliadau

Os gwnaed eich cwyn ar neu ar ôl 1 Chwefror 2020, mae gennych hawl i adolygiad.
Gallwch wneud cais am adolygiad os ydych yn anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cwyn, neu â'r canlyniad terfynol. Mae’n bwysig eich bod chi’n anfon eich adolygiad at y corff cywir – weithiau, gelwir hyn y corff adolygu perthnasol.
Dylai eich llythyr canlyniad gan wasanaeth yr heddlu neu sefydliad arall a ddeliodd â’ch cwyn wreiddiol nodi’n glir p’un yw’r corff adolygu perthnasol – gall hyn fod SAYH neu gorff plismona arall, megis eich comisiynydd heddlu a throseddu lleol.
Mae nifer o ganlyniadau posibl o adolygiad a amlinellir isod. Rydym yn argymell darllen y cwestiynau a ofynnir i ni'n aml cyn cyflwyno cais i gael eich cwyn wedi'i adolygu. Gall SAYH ond ystyried adolygiadau lle mai ni yw’r corff adolygu perthnasol.
Beth yw canlyniadau posibl o adolygiad SAYH?
Gallem:
![]() | wneud argymhelliad bod yr heddlu'n cynnig ymddiheuriad, neu fath arall o rwymedi i helpu datrys y gŵyn |
![]() | cyfarwyddo llu o'r heddlu i ail-ymchwilio i'ch cwyn wreiddiol |
![]() | adnabod dysgu i helpu gwella plismona |
![]() | cytuno bod y gŵyn wedi cael ei thrin yn rhesymol ac yn gymesur gyda’r canlyniad o beidio â gweithredu ymhellach |
Nid ydym yn gallu:
![]() | cyfarwyddo sefydliad i ddarparu iawndal |
![]() | agor ymchwiliad troseddol na newid canlyniad achos troseddol blaenorol, megis rhybuddiad |
![]() | ail-ymchwilio i'ch cwyn wreiddiol fel rhan o’r broses adolygu |
![]() | gwneud sylw ar faterion nad ydynt yn ffurfio rhan o'r gŵyn wreiddiol |
Mewn amgylchiadau eithriadol gallem:
![]() | argymell y dylai achos disgyblaethol ddigwydd |
![]() | ail-ymchwilio yn annibynnol i'ch cwyn os yw ein hadolygiad yn canfod bod angen hyn |
![]() | trefnu i atgyfeiriad gael ei wneud i Wasanaeth Erlyn y Goron |
Requesting a review of your complaint

Cwestiynau cyffredin
Mae'n rhaid i geisiadau am adolygiadau gael eu gwneud o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr canlyniad a dderbyniwyd oddi wrth y sefydliad y gwnaethoch eich cwyn wreiddiol iddo.
Nodwch, ni fydd unrhyw adolygiadau a gyflwynwyd i ni y tu allan i'r 28 diwrnod yn cael eu hystyried heblaw bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys. Os ydych yn gofyn am adolygiad allan o amser, rhoddir cyfle i chi gyflwyno tystiolaeth i gefnogi'ch rhesymau.
Os mai SAYH yw'r corff adolygu perthnasol ar gyfer eich cwyn, o'r dyddiad y derbyniwn eich cais am adolygiad, gall gymryd hyd at 12 mis i ni ddyrannu'ch adolygiad. Mae hyn oherwydd swm eithriadol o uchel o waith a dderbyniwyd yn y 2 flynedd diwethaf sydd wedi achosi ôl-groniad o adolygiadau sy'n disgwyl am ddyraniad.
Ar ôl i ni dderbyn eich cais am adolygiad byddwch chi’n derbyn e-bost i’ch cynghori pryd y gallwch ddisgwyl diweddariad am eich achos.
Rydym yn gweithio'n galed i leihau'r ôl-groniad a gwella ein hamseroldeb. Rydym yn ymddiheuro am hyd yr amser y bydd yn bosibl i chi orfod aros i'ch adolygiad gael ei ddyrannu. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd â'r amseroedd dyrannu presennol.
Dylai'r sefydliad y gwnaethoch gwyno iddo fod wedi anfon llythyr atoch sy'n dweud wrthych os oes gennych hawl i adolygiad. Os oes gennych yr hawl hon, bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych pa sefydliad fydd yn ymdrin â'ch adolygiad.
Mae'n bwysig eich bod yn anfon eich adolygiad at y sefydliad cywir - weithiau, cyfeirir at hwn fel y corff adolygu perthnasol. Dylai eich llythyr canlyniad oddi wrth wasanaeth yr heddlu neu sefydliad arall a ymdriniodd â'ch cwyn wreiddiol ddatgan yn eglur pwy yw'r corff adolygu perthnasol.
Mae'r SAYH yn gallu ystyried adolygiadau yn unig lle mai ni yw'r 'corff adolygu perthnasol'. Os ydych yn ansicr pwy yw'r corff adolygu perthnasol, cysylltwch â'r unigolyn a ddarparodd y penderfyniad mewn perthynas â'ch cwyn.
Os mai SAYH yw'r corff adolygu perthnasol ar gyfer eich cwyn, cwblhewch ein ffurflen adolygiadau. Gallwch hefyd gyflwyno adolygiad yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio ein ffurflen argraffadwy.
Gallwch. Gallwch gyflwyno rhagor o wybodaeth i ni os dymunwch hyd at yr adeg y dyrennir eich adolygiad i reolwr gwaith achosion. Fodd bynnag rydym yn eich annog i gyflwyno unrhyw wybodaeth i gefnogi'ch adolygiad o fewn saith diwrnod o gyflwyno, gan gynnwys eich llythyr canlyniad oddi wrth y sefydliad a ymdriniodd â'ch cwyn, i sicrhau y gall unrhyw wybodaeth a ddarparwch gael ei hystyried cyn i benderfyniad ar eich adolygiad gael ei wneud.
Nodwch, gallwn ystyried gwybodaeth a thystiolaeth yn ymwneud â'r gwyn benodol yr ymdriniwyd â hi yn unig ac y mae eich adolygiad yn ymwneud â hi. Ni fydd unrhyw wybodaeth nad yw'n ymwneud â'r gŵyn wreiddiol yn cael ei hystyried.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn gynhwysol ac yn hygyrch.
Byddwn yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig, yn gallu defnyddio ein gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys gwneud addasiadau rhesymol lle ei fod yn briodol. Mae addasiad rhesymol yn golygu newid y ffordd rydym fel arfer yn gwneud pethau i sicrhau bod ein gwasanaeth yn hygyrch i bawb.
Os oes angen cymorth arnoch i'ch helpu i gyflwyno adolygiad neu fod angen addasiadau rhesymol, cysylltwch â'n Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 020 0096. Bydd ein hymgynghorwyr cyswllt cwsmeriaid yn gallu eich cyfeirio at sefydliadau, neu wasanaethau eiriolaeth a allai eich cynorthwyo.
Gallwch ganfod bod y canllaw hwn i'n polisi addasiad rhesymol o gymorth.
Pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen adolygu, byddwn yn gwirio os ni yw'r sefydliad cywir i ymdrin â’ch adolygiad. Os nad ydym, byddwn yn anfon eich adolygiad ymlaen at y corff perthnasol ac yn eich hysbysu ein bod wedi gwneud hynny.
Bydd y corff adolygu perthnasol yn anfon llythyr atoch i gydnabod eich adolygiad. Byddant yn dweud wrthych faint o amser y mae’n debygol o gymryd i ystyried eich adolygiad. Bydd y corff adolygu perthnasol yn hysbysu’r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano eich bod wedi gwneud cais am adolygiad. Byddant hefyd yn hysbysu'r unigolyn y cwynir amdano ac unrhyw bobl eraill sydd â diddordeb.
Bydd y corff adolygu perthnasol yn gofyn i'r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano i roi unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich cwyn a sut y gwnaethant ymdrin â hi.
Pan fydd yr holl wybodaeth wedi cael ei darparu, bydd y corff adolygu perthnasol yn asesu eich adolygiad ac yn gwneud ei benderfyniad. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig. Byddwch yn cael esboniad eglur am sut y daethpwyd i'r penderfyniad hwn.
Cwestiynau cyffredin - Apeliadau
Os gwnaed eich cwyn cyn 1 Chwefror 2020, mae gennych hawl i apêl. Mae chwe math gwahanol o apêl:
- gallwch apelio yn erbyn ymchwiliad yr heddlu neu sefydliad arall i mewn i'ch cwyn.
- gallwch apelio os na chofnodwyd cwyn.
- gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i ddatgymhwyso.
- gallwch apelio yn erbyn canlyniad y penderfyniad lleol.
- gallwch apelio yn erbyn canlyniad cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad i derfynu ymchwiliad.
Apêl yn erbyn ymchwiliad i gŵyn a wnaed i’r heddlu neu sefydliad arall
Mae’n bosibl y gallwch apelio os deliwyd â’ch cwyn drwy ymchwiliad lleol neu dan oruchwyliaeth.
Gallwch apelio os:
- Na chawsoch ddigon o wybodaeth i'ch galluogi i ddeall pam y daeth yr heddlu neu sefydliad arall i'w penderfyniad.
- Rydych yn anghytuno â chanfyddiadau ymchwiliad i'ch cwyn. Gallech deimlo na chyfwelwyd â’r tystion cywir, neu fod eich cwyn wedi’i chamddeall, neu na wnaeth y sefydliad y gwnaethoch y gŵyn iddo wneud y penderfyniad cywir ar sail yr holl dystiolaeth.
- Rydych yn anghytuno â'r camau y mae'r heddlu'n bwriadu eu cymryd ar ôl ymchwilio i'ch cwyn.
- Nid ydych yn meddwl bod yr heddlu wedi gwneud y penderfyniad cywir ynghylch a oes gan swyddog y gwnaethoch gŵyn amdano achos i'w ateb am gamymddwyn, camymddwyn difrifol, neu os oedd ei berfformiad yn anfoddhaol.
- Rydych yn anghytuno â’r penderfyniad i beidio â chyfeirio ymddygiad y swyddog at y CPS am benderfyniad ynghylch a ddylid dwyn cyhuddiadau troseddol.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â chontractwr).
Apêl yn erbyn peidio â chofnodi eich cwyn
Gallwch apelio os:
- Na wnaeth yr heddlu neu'r corff plismona lleol gofnodi'ch cwyn. Mae cyrff plismona yn cynnwys Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain, neu Swyddfa'r Maer ar gyfer Plismona a Throsedd. Mae rhai adegau pan nad oes angen iddynt gofnodi cwyn, ond dylid dweud wrthych pam. Gallwch ddod o hyd i restr o amgylchiadau lle nad oes angen cofnodi cwynion yn ein canllawiau statudol.
- Fe wnaethoch chi gwyno i heddlu heblaw'r un oedd yn ymwneud â'ch cwyn. Ni wnaeth yr heddlu a dderbyniodd eich cwyn ei throsglwyddo i'r heddlu perthnasol.
- Mae'r heddlu neu gorff plismona lleol yn methu â phenderfynu a ddylid cofnodi eich cwyn ac nad ydych yn clywed oddi wrthynt o fewn 15 diwrnod gwaith.
Ni allwch apelio os oedd eich cwyn:
- Yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth a bod y corff plismona lleol wedi penderfynu peidio â'i chofnodi. Fodd bynnag, gallwch apelio os gwnaed y penderfyniad i beidio â chofnodi gan yr heddlu.
- Heb ei chofnodi oherwydd iddi gael ei thynnu'n ôl.
- Heb ei chofnodi oherwydd ei bod wedi cael ei thrin, neu'n cael ei thrin, trwy gamau disgyblu neu droseddol.
Apelio yn erbyn penderfyniad i ddatgymhwyso
Mae’n bosibl y gallwch apelio os daeth y broses gwyno i ben cyn i ymchwiliad i’ch cwyn ddechrau. Mae’r sefyllfa hon yn digwydd pan fydd yr heddlu dan sylw yn gwneud ‘penderfyniad i ddatgymhwyso’.
Gallwch apelio os credwch na ddylai'r heddlu fod wedi penderfynu datgymhwyso.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â chontractwr), neu os rhoddodd yr IOPC ganiatâd i’r heddlu ddatgymhwyso.
Apêl yn erbyn canlyniad y penderfyniad lleol
Efallai y gallwch apelio os deliwyd â'ch cwyn gan ddefnyddio'r broses datrysiad lleol.
Pan ysgrifennodd yr heddlu atoch ynglŷn â chanlyniad eich cwyn, fe wnaethant hefyd ddweud wrthych at bwy i apelio. Mewn llawer o achosion, hwn fydd prif swyddog yr heddlu. Mewn achosion eraill, yr IOPC fydd hwn.
Gallwch apelio os:
- Ydych yn meddwl nad oedd canlyniad y datrysiad lleol i'ch cwyn yn un cywir. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, eich bod yn credu nad oedd y canlyniad yn briodol i’r gŵyn, neu nad oedd y canlyniad yn adlewyrchu’r dystiolaeth sydd ar gael.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â chontractwr).
Apelio yn erbyn canlyniad cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso
Efallai y gallwch apelio os daeth y broses o ymchwilio i'ch cwyn i ben cyn iddi gael ei hymchwilio. Pan fydd heddlu yn gwneud penderfyniad i roi’r gorau i ddelio â chwyn cyn ymchwilio iddi, gelwir hyn yn ‘benderfyniad i ddatgymhwyso’.
Gallwch apelio os:
- Nad ydych yn fodlon ar y camau a gymerwyd ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Ydych yn anhapus na chymerwyd unrhyw gamau ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Nad ydych yn cytuno â chanlyniad eich cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Nad ydych yn meddwl bod canlyniad eich cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso yn ddigonol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, eich bod yn credu nad oedd y canlyniad yn ddigonol ar gyfer natur y gŵyn, neu nad oedd y canlyniad yn adlewyrchu’r dystiolaeth oedd ar gael.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â chontractwr).
Apêl yn erbyn y penderfyniad i derfynu ymchwiliad
Mae’n bosibl y gallwch apelio os bydd heddlu’n penderfynu dod â’r ymchwiliad y mae’n ei gynnal i’ch cwyn i ben.
Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn os nad ydych yn credu y dylai'r heddlu fod wedi terfynu'r ymchwiliad.
Sylwch, ni allwch apelio pan mae'r gŵyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw’ch cwyn yn ymwneud â chontractwr), neu os rhoddodd yr IOPC ganiatâd i’r heddlu ddatgymhwyso.
Pan fydd yr IOPC neu’r heddlu yn derbyn eich cais am apêl, bydd yn gwirio os dyma’r sefydliad cywir i drin eich cais. Os nad yw, bydd yn anfon eich apêl ymlaen at y corff apêl perthnasol ac yn eich hysbysu ei fod wedi gwneud hynny.
Bydd y corff apêl perthnasol yn anfon llythyr atoch i gydnabod eich apêl. Byddant yn dweud wrthych faint o amser y mae'n debygol o'i gymryd i ystyried eich apêl.
Bydd y corff apêl perthnasol yn hysbysu’r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano eich bod wedi gwneud cais am apêl. Byddant hefyd yn hysbysu'r person y cwynir amdano ac unrhyw bobl eraill sydd â diddordeb.
Bydd y corff apêl perthnasol yn gofyn i'r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano i roi unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich cwyn a sut y gwnaethant ymdrin â hi.
Pan fydd yr holl wybodaeth wedi’i ddarparu, bydd y corff perthnasol yn asesu eich apêl ac yn gwneud ei benderfyniad. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn cael esboniad clir am sut y daethpwyd i'r penderfyniad hwn.
Beth yw gwaith achos?
