Amdanom ni

Rydym yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, ac yn ymchwilio i'r materion mwyaf difrifol yn ymwneud ag ymddygiad yr heddlu. Rydym hefyd yn rhannu ein dysgu i wella arferion yr heddlu fel y gall pawb gael ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.
Asian woman sitting in an office opposite a colleague

Ni yw Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, corff gwarchod cwynion yr heddlu sy'n goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn ymchwilio i'r materion mwyaf difrifol, gan gynnwys marwolaethau yn dilyn cyswllt â'r heddlu ac rydym yn gosod y safonau y dylai'r heddlu ymdrin â chwynion yn eu herbyn. 

Rydym yn annibynnol, sy’n golygu bod ein penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gwbl annibynnol i'r heddlu a’r llywodraeth. Ein gweledigaeth yw bod pawb yn gallu bod â ffydd a hyder mewn plismona. 

I gyflawni hyn, rydym yn defnyddio ein dysgu a’n hargymhellion o’n gwaith i hyrwyddo safonau uchel o broffesiynoldeb ac atebolrwydd mewn plismona. Mae ein dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ysgogi gwelliannau mewn arferion plismona, er budd y cyhoedd a’r heddlu.

Ein gorchwyl yw gwella plismona trwy arolygiaeth annibynnol o gwynion yr heddlu, dwyn yr heddlu i gyfrif a sicrhau bod dysgu yn effeithio ar newid.

Beth a wnawn

Ein hannibyniaeth a'n llywodraethiant

Dysgwch fwy am ein strwythur llywodraethiant, a beth sy'n ein gwneud yn sefydliad annibynnol.

Ein strategaeth a'n perfformiad

Dysgwch am ein strategaeth pum mlynedd, ein perfformiad a sut rydym yn mesur llwyddiant.
Image
Group of colleagues in discussion

Darganfyddwch fwy am ein tîm arwain

Ein pobl
Image

Dysgwch am ein gwaith i ymgysylltu â chymunedau

Ymgysylltu â chymunedau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae ein gorchwyl, sef gwella hyder y cyhoedd mewn plismona, yn golygu rhoi pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a phrofiadau wrth wraidd popeth a wnawn.

Cwynion

Er bod y rhan fwyaf o gwynion yn cael eu trin gan yr heddlu perthnasol, dim ond i'r materion mwyaf difrifol a sensitif rydym yn ymchwilio'n annibynnol. Dysgwch fwy yn ein canllaw i’r broses gwyno.

Gweithio i ni

Eisiau hybu hyder y cyhoedd yn system gwynion yr heddlu? Ymunwch â ni a byddwch yn cymryd rhan mewn peth o'r gwaith mwyaf heriol a gwerthfawr i chi ddod ar ei draws.