Ymgysylltu â chymunedau
Ein nod yw creu system gwynion yr heddlu y mae’r cyhoedd yn ymddiried ynddi ac yn hyderus y bydd yn sicrhau canlyniadau teg, annibynnol a chyfiawn. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n hanfodol ein bod yn gwrando, yn deall ac yn ymateb i anghenion y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau, neu’r rhai a fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol.
Ni allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hunain. Mae meithrin hyder yn system gwynion yr heddlu yn golygu gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid a chymunedau i ddeall eu pryderon ac ymateb iddynt.
Un o'n hamcanion allweddol yn ein cynllun strategol yw cynyddu ymwybyddiaeth a hyder yn ein gwaith. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym yn addasu ein hymgysylltiad arfaethedig ym mhob un o’n rhanbarthau ledled Lloegr a Chymru fel y gall pobl sydd â’r hyder lleiaf mewn plismona rannu eu profiadau.
Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda grwpiau o gefndiroedd gwahanol i drafod ein hymchwiliadau parhaus, i ddarparu gwybodaeth am yr hawl i gwyno a sut i wneud cwyn, ac i ddysgu oddi wrthynt.
Ein hymgysylltiad â chymunedau
Weithiau mae gan ein rhanddeiliaid safbwyntiau gwrthgyferbyniol am ein gwaith a system gwynion ehangach yr heddlu. Rydym wedi ymrwymo i ddeall gwahanol safbwyntiau a chymhellion ein holl randdeiliaid, gan gynnwys y rhai sy'n feirniadol o'n gwaith. Rydym yn gwrando ar bob persbectif ac yna'n gwneud ein penderfyniadau mewn modd diduedd yn unol â'r gyfraith.
Mae ein rhanddeiliaid yn cynnwys:
Defnyddwyr gwasanaeth
- achwynwyr a'u cynrychiolwyr
- teuluoedd mewn profedigaeth
- partïon â diddordeb
- tystion
- pynciau personél yr heddlu
Rhanddeiliaid statudol
- seneddwyr
- heddlu gan gynnwys prif gwnstabliaid ac adrannau safonau proffesiynol
- cyrff eraill a oruchwyliwn e.e. Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol, a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd
- sefydliadau atebolrwydd yr heddlu, megis Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) a’r Coleg Plismona (CoP), Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), a swyddfeydd crwneriaid
- Y Swyddfa Gartref a chyrff statudol eraill sy’n croestorri â’n gwaith, megis y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y GIG ac awdurdodau lleol
Rhanddeiliaid anstatudol
- cymunedau sy'n ymgysylltu â, neu'n dod i'r amlwg o ganlyniad i'n hymchwiliadau
- y sector gwirfoddol a grwpiau eiriolaeth sy’n cynrychioli’r cyhoedd, neu sydd â diddordeb mewn plismona
- academyddion
Y cyhoedd
- grwpiau hyder isel fel grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl ifanc
- cyhoedd cyffredinol
Mae ein tîm ymgysylltu â rhanddeiliaid cenedlaethol yn meithrin perthnasoedd ac yn ymgynghori â sefydliadau cenedlaethol sy’n gweithio ar draws plismona.
Mae ein tîm ymgysylltu â rhanddeiliaid cenedlaethol yn meithrin perthnasoedd ac yn ymgynghori â sefydliadau cenedlaethol sy’n gweithio ar draws plismona.
Ffocws allweddol i'r tîm yw casglu gwybodaeth a dirnadaeth rhanddeiliaid, a sicrhau bod hyn yn cael ei fwydo i mewn i gynllunio busnes, gwelliant gweithredol a gwybodaeth i staff.
Mae gennym dîm o swyddogion ymgysylltu â rhanddeiliaid rhanbarthol (SEO) sy'n cyd-fynd â phob un o'n chwe swyddfa ledled Lloegr a Chymru. Mae'r SEOs rhanbarthol yn canolbwyntio ar wella ymddiriedaeth a hyder trwy weithio'n agos gyda'r cymunedau hynny sydd â'r hyder lleiaf mewn cwynion plismona a'r heddlu.
Mae’r SEOs yn gweithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys sefydliadau trydydd sector, grwpiau eiriolaeth a grwpiau atebolrwydd cymunedol, a heddlu lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’n gwaith a’r system gwynion ehangach.
Mae pob un o’n SEOs yn darparu ymgysylltu pwrpasol i’r cymunedau hyn yn eu rhanbarth ac yng Nghymru mewn ffordd ragweithiol trwy fynychu cyfarfodydd presennol a sefydlu sesiynau ymgysylltu wedi’u teilwra. Maent hefyd yn gweithio drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid yn dilyn digwyddiad pwysig neu uchel ei broffil lle rydym wedi datgan ymchwiliad annibynnol.