Ein gwaith

Ein nod yw sicrhau bod gan bawb hyder ac ymddiriedaeth yn system gwynion yr heddlu.

Mae'r wybodaeth yn yr adran hon hefyd ar gael mewn fformat 'hawdd i'w ddarllen'


Rydym yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, gan osod y safonau y dylai’r heddlu ymdrin â chwynion yn eu herbyn. Rydym yn ymchwilio i’r materion mwyaf difrifol, gan gynnwys honiadau o lygredd difrifol, ac achosion lle mae rhywun wedi marw neu wedi’i anafu’n ddifrifol yn dilyn cyswllt â’r heddlu.  Rydym hefyd yn ystyried rhai mathau o adolygiadau gan bobl sy'n anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'u cwyn.

Rydym yn chwarae rôl hanfodol mewn gwella ymarfer yr heddlu trwy sicrhau bod yr heddlu yn atebol am eu gweithredoedd a bod gwersi’n cael eu dysgu. Gan weithio gyda’n partneriaid, defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau, rydym yn defnyddio tystiolaeth o’n gwaith i ddylanwadu ar ac ysgogi newidiadau i blismona, yn enwedig ar faterion y gwyddom eu bod yn effeithio ar hyder y gymuned a’r cyhoedd.  Un enghraifft o hyn yw ein ffocws ar wahaniaethu hiliol mewn plismona ac ar ymateb yr heddlu i drais yn erbyn menywod a merched.

As partFel rhan o’n gwaith goruchwylio ehangach, rydym yn darparu canllawiau i helpu’r heddlu i ymdrin â chwynion ar lefel leol. Rydym hefyd yn monitro perfformiad adrannau safonau proffesiynol heddluoedd ac yn eu dwyn i gyfrif am eu perfformiad wrth ymdrin â chwynion.

Ynghyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) a’r Coleg Plismona rydym yn asesu ac yn ymateb i uwch-gwynion.  Gwneir uwch-gwynion gan amrywiaeth o sefydliadau am faterion eang neu systemig a allai effeithio ar hyder y cyhoedd mewn plismona.

Mae gennym hefyd bwerau mewn perthynas â nifer o sefydliadau eraill nad ydynt yn heddluoedd ond sydd â phwerau tebyg i’r heddlu, ac rydym yn ymchwilio i honiadau troseddol yn erbyn comisiynwyr heddlu a throseddu a’u dirprwyon.

Ein gorchwyl yw gwella plismona trwy oruchwyliaeth annibynnol o gwynion yr heddlu, dwyn yr heddlu i gyfrif a sicrhau bod dysgu yn creu newid. Rydym yn defnyddio dysgu o'n gwaith i ddylanwadu ar newidiadau mewn plismona, er mwyn i bawb allu cael ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu. Rydym yn gwneud ein penderfyniadau yn hollol annibynnol o ac ar wahân i i'r heddlu a'r llywodraeth. Tom Whiting, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro

Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein gorchwyl

Meithrin ymddiriedaeth a hyder mewn plismona

Gwyliwch ein fideo am rai ystadegau a gwybodaeth allweddol o'r adroddiad, a lawrlwythwch gopi i ddarllen y storïau bywyd go iawn.
Gwyliwch ein fideo

Cwynion

Dysgwch bopeth sydd angen i chi wybod am y broses gwynion.

Ymchwiliadau

Rydym yn ymchwilio i'r cwynion mwyaf difrifol a materion ymddygiad yn annibynnol i bob llu heddlu ledled Cymru a Lloegr.

Meysydd gwaith allweddol

Mae ein gwaith yn torri ar draws nifer o feysydd a themâu allweddol. Rydym yn defnyddio dysgu o’n gwaith i hyrwyddo safonau uchel o broffesiynoldeb ac atebolrwydd mewn plismona.