Cysylltwch â ni

Pan fyddwch yn dod i gysylltiad â ni gallwch ddisgwyl safon uchel o wasanaeth. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth teg a hygyrch i bawb.
IOPC colleagues on a staircase

Ffoniwch ni

0300 020 0096

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg (opsiwn 2).

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Gellir recordio galwadau at ddibenion hyfforddi a monitro. Sylwch, mae llinellau ar gau ar wyliau banc.

I wneud cwyn am yr heddlu, defnyddiwch ein ffurflen gwyno ar-lein.

E-bostiwch ni

[email protected]

Yn anffodus, ar hyn o bryd, bydd oedi o hyd at 10 wythnos cyn i ni allu ymateb i unrhyw ymholiadau uniongyrchol a dderbyniwn. Rydym yn eich cynghori i ddarllen ein e-bost cydnabod awtomatig sy'n cynnwys llawer o gwestiynau am y broses cyn mynd ar drywydd ymateb gennym ni. Sylwch nad yw ein systemau cyfrifiadurol yn gallu derbyn atodiadau sy'n fwy na 7.5 megabeit o ran maint.

Cyfnewid neges destun

Os oes angen gwasanaethau cyfnewid neges destun arnoch i gyfathrebu â ni, ffoniwch 18001 020 8104 1220. Bydd angen i chi osod ap Relay UK ar eich ffôn neu gyfrifiadur i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

Rydym hefyd yn cynnig mynediad i'n gwasanaethau trwy Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â'n tîm ymholiadau am ragor o fanylion.

Ymholiadau'r cyfryngau

Mae gennym swyddfa'r wasg bwrpasol sy'n delio â holl ymholiadau'r cyfryngau. Gwiriwch pwy yw'r aelod gorau o'n tîm i gysylltu â nhw i ateb eich ymholiad.

Llinell Adrodd i'r heddlu

Darganfyddwch fwy am ein Llinell Adrodd ar gyfer swyddogion yr heddlu a staff sydd am roi gwybod am faterion posibl o bryder neu ddrwgweithredu.

Adborth am ein gwasanaeth

Rhowch wybod i ni am y gwasanaeth rydych chi wedi'i dderbyn gennym ni, a darganfyddwch sut rydym yn trin adborth.

Diogelu data

Mae gennym Swyddog Diogelu Data dynodedig. Anfonwch e-bost atom os oes gennych unrhyw bryderon am y ffordd rydym yn casglu, trin neu brosesu eich data.

Ein safonau gwasanaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r safon uchaf posibl o wasanaeth cwsmeriaid. Mae ein safonau gwasanaeth yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda chi, a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym. Ein safonau gwasanaeth