Cyflwynwch gŵyn
Ffurflen gwynion
Pan fyddwch yn gwneud cwyn drwy wefan yr IOPC, caiff y gŵyn hon ei hanfon yn uniongyrchol at yr heddlu neu’r sefydliad dan sylw, iddynt ei hystyried. Gallwch hefyd gwyno'n uniongyrchol i'r heddlu/sefydliad. Byddant yn asesu eich cwyn ac yn cysylltu â chi ynghylch sut y caiff ei thrin.
Ni fydd yr IOPC yn ymwneud â’r asesiad cychwynnol hwn o’ch cŵyn.
Os byddai'n well gennych anfon eich cwyn trwy e-bost neu'n ysgrifenedig, defnyddiwch y fersiwn word neu PDF o'n ffurflen gwyno.
Os ydych chi’n ceisio codi pryderon am rywbeth rydych chi wedi’i weld ar gyfryngau cymdeithasol, yn y newyddion, neu wedi clywed amdano gan berson arall, efallai na fyddwch chi’n cael eich ystyried i gael eich effeithio’n negyddol.
Os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur a rennir, i amddiffyn eich preifatrwydd, cliriwch eich hanes pori, gan gynnwys eich storfa a holl ddata'r ffurflen awtolenwi, ar ôl cyflwyno'r ffurflen gwyno.