Cwynion
Rydym yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yn Lloegr ac yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o gwynion yn cael eu trin gan yr heddlu perthnasol. Mae gan bob heddlu adran sy'n sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â chwynion, a gelwir y rhain fel arfer yn adrannau safonau proffesiynol.

Yn 2023/24, cofnododd heddluoedd a chyrff plismona lleol yn Lloegr a Chymru 85,458 o achosion o gwynion.
Byddwn yn ymchwilio'n annibynnol i'r materion mwyaf difrifol a sensitif yn unig. Dyma’r math o faterion sydd â’r potensial i effeithio ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu, megis marwolaethau ac anafiadau difrifol.
Mae’r adran hon yn ymdrin â’r mathau o bethau y gallwch gwyno amdanynt, pwy y gallwch gwyno amdanynt, a beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gwneud cwyn.
Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad eich cwyn, neu’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn, gallwch wneud cais am adolygiad neu apêl.
Image

Ydych chi'n barod i gyflwyno cwyn?
Cyflwynwch gwynImage
