Meysydd gwaith allweddol

Mae ein gwaith yn torri ar draws nifer o feysydd a themâu allweddol. Rydym yn defnyddio dysgu o’n gwaith i hyrwyddo safonau uchel o broffesiynoldeb ac atebolrwydd mewn plismona.
British Asian man talks to female colleague in office

Ein gwaith thematig

Rydym yn gorff hollol annibynnol, ac rydym yn cyfarfod ag amrywiaeth o achosion sy'n cwmpasu amrediad eang o faterion. Rydym yn monitro pob agwedd o'n gwaith yn agos i'n helpu i adnabod patrymau neu dueddiadau y gall fod angen ymchwilio ychwanegol iddynt. Gall materion godi hefyd o sgyrsiau a gawn â'n rhanddeiliaid. Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau amrywiol i sicrhau ein bod yn cymryd ymagwedd gytbwys a gwybodus at ein gwaith.

Gall materion godi hefyd o sgyrsiau a gawn â'n rhanddeiliaid. Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau amrywiol i sicrhau ein bod yn cymryd ymagwedd gytbwys a gwybodus at ein gwaith.

Pan adnabyddir maes pryder, rydym yn neilltuo adnoddau ac arbenigedd ychwanegol i edrych i mewn i'r mater yn ddyfnach. Mae'r ymagwedd hon â ffocws yn ein helpu i wella plismona a'n gwaith ein hunain trwy adnabod dysgu sy'n ysgogi newid gwirioneddol. Ein gwaith "thematig" rydym yn galw hyn.

Ein meysydd ffocws presennol yw Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Gwahaniaethu ar sail Hil.

Image
Two young women talking in an office

Darllenwch am ein gwaith ar Drais yn erbyn Menywod a Merched

Dysgwch fwy am ein gwaith thematig ar Wahaniaethu ar sail Hil
Image
Young black man being searched by police officer

Dysgwch fwy am ein gwaith thematig ar Wahaniaethu ar sail Hil

Gwahaniaethu ar sail Hil

Beth yw gwaith thematig?

Mae'r fideo byr hwn yn archwilio beth mae ein gwaith thematig yn ei gynnwys a pham mae'n hanfofol edrych yn agosach ar themâu cyffredin i wella ymarfer heddlu
Fideo “Beth yw gwaith thematig?”

Ein meysydd gwaith allweddol eraill:

Ein newyddion diweddaraf

Darllenwch wybodaeth ddiweddaraf am ein meysydd gwaith allweddol. Gallwch hidlo'r newyddion i'r pwnc y mae gennych fwyaf o ddiddordeb ynddo.

Ateb Tawel

Darllenwch am ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r system Ateb Tawel sy'n helpu pobl i rybuddio'r heddlu pan fyddant mewn perygl agos ond nad ydynt yn gallu siarad.