Cael Eich Clywed: Deall yr Ateb Tawel
Beth yw'r Ateb Tawel?
Pan fydd angen i chi ffonio 999 ond yn methu siarad - gall yr Ateb Tawel helpu. Mae'r Ateb Tawel yn system sy'n hidlo nifer fawr o alwadau 999 damweiniol, neu ffug, tra'n sicrhau bod pobl yn gallu rhybuddio'r heddlu a chael cymorth pan fyddant mewn gwir angen ond yn methu â siarad.
Bydd neges wedi'i recordio yn cyfarwyddo galwyr na allant siarad i bwyso 55 i gael eu trosglwyddo i'r heddlu. Bydd aros yn dawel a pheidio â phwyso 55 yn arwain at derfynu'r alwad.
Sut mae'n gweithio?
Os oes angen cymorth brys arnoch gan yr heddlu ond na allwch siarad, dylech:
- Ffonio 999
- Gwrando ar y cwestiynau gan y gweithredwr
- Ymateb trwy beswch neu dapio'ch dyfais, os gallwch chi
- Os gofynnir i chi, pwyswch 55 i roi gwybod i'r gweithredwr ei fod yn argyfwng gwirioneddol a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r heddlu
Cael Eich Clywed
Ym mis Ebrill 2019, lansiwyd ein hymgyrch Cael Eich Clywed i godi ymwybyddiaeth o’r system Ateb Tawel. Roedd hyn yn dilyn ein hymchwiliad i gyswllt blaenorol yr heddlu â menyw a gafodd ei llofruddio'n drasig gan ei phartner. Roedd hi wedi meddwl yn anghywir bod gan yr heddlu ei rhif a phe bai'n gwneud galwad 999 dawel, byddent yn gwybod i ddod.
Ar ôl i heddluoedd ac elusennau cam-drin domestig adrodd am gynnydd mewn galwadau yn ymwneud â cham-drin domestig yn ystod pandemig Covid-19, lansiodd y Swyddfa Gartref yr ymgyrch #youarenotalone ym mis Ebrill 2020. O ganlyniad, fe wnaethom adnewyddu ein deunyddiau ymgyrchu a gweithio gyda’r NPCC, Cymorth i Ferched a Chymorth i Ferched Cymru i godi ymwybyddiaeth unwaith eto o’r offeryn hanfodol hwn. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i bosteri a ffeithluniau ar y dudalen hon.
Gwasanaeth Neges Destun y Genhedlaeth Nesaf
Mae gwasanaeth Neges Destun y Genhedlaeth Nesaf, sy’n cael ei redeg gan BT, wedi cael ei gynllunio ar gyfer pobl sy’n fyddar, yn drwm eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd. Mae angen i chi gofrestru eich rhif ffôn symudol cyn defnyddio'r gwasanaeth. Ewch i wefan NGT am wybodaeth.