Canllaw i'r broses gwyno
Rydym yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yn Lloegr a Chymru, ond yr heddlu perthnasol sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o gwynion. Mae gan bob heddlu adran sy'n sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â chwynion, a gelwir y rhain fel arfer yn adrannau safonau proffesiynol.
Byddwn yn ymchwilio'n annibynnol i'r materion mwyaf difrifol a sensitif yn unig. Dyma’r math o faterion sydd â’r potensial i effeithio ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu, megis marwolaethau ac anafiadau difrifol.
Eisiau gwybod sut mae'r broses gwyno yn gweithio?
Y broses gwyno
Yr heddluoedd eu hunain sy'n delio â chwynion i ddechrau. Mae gan bob heddlu adran sy'n sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â chwynion, a gelwir y rhain fel arfer yn adrannau safonau proffesiynol.
Byddwn yn ymchwilio'n annibynnol i'r materion mwyaf difrifol a sensitif yn unig. Dyma’r math o faterion sydd â’r potensial i effeithio ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu, megis marwolaethau ac anafiadau difrifol.
Os byddwch yn cwyno drwy’r IOPC, byddwn yn anfon eich cwyn yn uniongyrchol at yr heddlu neu’r corff plismona lleol dan sylw. Byddant yn asesu eich cwyn ac yn cysylltu â chi ynghylch sut y caiff ei thrin.
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i heddlu allu ymchwilio i gŵyn a chael y cyfle i egluro, ymddiheuro neu unioni pethau eu hunain.
Rydym am ei wneud yn syml ac yn hawdd i wneud cwyn. Gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r heddlu neu'r corff plismona lleol dan sylw neu gallwch gwyno gan ddefnyddio'r ffurflen hon a byddwn yn trosglwyddo eich cwyn iddynt. Nid ydym yn cadw copi o'ch cwyn
Disgwyliwn i heddluoedd gymryd cwynion o ddifrif a rheoli unrhyw faterion y gallech fod wedi'u profi. Dylai'r heddlu ddysgu o gwynion er mwyn gwella'r ffordd y maent yn gwneud pethau a gwneud newidiadau i atal yr un broblem rhag ddigwydd eto. Rydym hefyd yn disgwyl i heddluoedd nodi a chyfeirio'r mathau mwyaf difrifol o gwynion atom.
Mae'n rhaid i heddluoedd ymdrin â chwynion mewn ffordd resymol a chymesur. Mae hyn yn golygu:
- gwneud yr hyn sy'n briodol o dan yr amgylchiadau
- ystyried y ffeithiau a'r cyd-destun y codir y gŵyn ynddo
- darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid.
Oes, ewch i'n canllaw pwrpasol i'r broses gwyno ar gyfer pobl ifanc.
Nid yw'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn dod o dan ein hawdurdodaeth. Dylech godi unrhyw anghydfod am y wybodaeth ar eich Datgeliad Cofnodion Troseddol yn uniongyrchol gyda’r DBS.
Os ydych wedi gwneud cais am wiriad DBS ond yn profi oedi, dylech gysylltu â’r DBS yn uniongyrchol. Os bydd eich cwyn i’r DBS yn datgelu mai cyfrifoldeb yr heddlu lleol yw’r oedi, yna gallwch gwyno’n uniongyrchol i’r heddlu dan sylw.
Gallwch gwyno i ni os ydych yn anhapus ag ymddygiad swyddog neu aelod o staff yr heddlu neu os teimlwch i chi gael eich trin yn wael neu'n annheg gan yr heddlu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod y gosb benodedig yn cael ei chanslo.
Mae'r un peth yn wir os ydych wedi cael rhybudd. Ni allwn ddileu rhybudd gan yr heddlu na herio’r rhybudd ar eich rhan. Os hoffech herio rhybuddiad heddlu neu gosb benodedig, dylech gysylltu â'ch swyddfa leol ar Gyngor ar Bopeth neu geisio cyngor cyfreithiol.
Nid yw ein cylch gorchwyl yn cwmpasu hawliadau am iawndal gan yr heddlu. Os ydych am fynd ar drywydd unrhyw hawliadau ariannol yn erbyn yr heddlu, dylech gysylltu â'r heddlu dan sylw yn uniongyrchol, neu gallwch ysgrifennu at gyfreithiwr yr heddlu.
Gwneud cwyn
I wneud cwyn, gallwch:
- gwyno'n uniongyrchol i'r heddlu neu sefydliad
- lenwi ein ffurflen ar-lein
- lenwi'r fersiwn word neu pdf o'n ffurflen gwyno
Gallwch hefyd gwyno drwy ffonio 101 neu ymweld ag unrhyw orsaf heddlu. Os ydych yn cwyno'n bersonol gallwch ddod â rhywun gyda chi megis ffrind neu eiriolwr. Os yw'n well gennych, gall rhywun wneud cwyn ar eich rhan, ond mae'n rhaid i chi roi eich caniatâd yn ysgrifenedig iddynt wneud hyn.
Yn ogystal â heddluoedd, gallwch ddefnyddio system gwynion yr heddlu i gwyno am:
- yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
- Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- y rhannau o’r Swyddfa Gartref sy’n cyflawni swyddogaethau ffiniau a mewnfudo
- gomisiynwyr heddlu a throsedd (a chyrff tebyg fel Maer Manceinion Fwyaf)
- Swyddfa’r Maer ar gyfer Plismona a Throsedd
- y Meistri Gangiau ac Awdurdod Cam-drin Llafur
- Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
- Heddlu'r Weinyddiaeth Amddiffyn
- Independent Commission for Reconciliation and Information Recovery (ICRIR)
Gallwch wneud cwyn os ydych wedi:
- Profi ymddygiad amhriodol gan swyddog heddlu, aelod o staff, contractwr neu wirfoddolwr. Er enghraifft, os oeddech chi'n teimlo eu bod yn anghwrtais neu'n ymosodol tuag atoch chi.
- Wedi gweld swyddog heddlu, aelod o staff, contractwr neu wirfoddolwr yn gweithredu'n amhriodol.
- Wedi cael eich effeithio’n negyddol gan ymddygiad swyddog heddlu, aelod o staff, contractwr neu wirfoddolwr, hyd yn oed os na ddigwyddodd mewn perthynas â chi (mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn y Canllawiau Statudol ar system gwynion yr heddlu).
Os ydych yn cynrychioli rhywun sydd yn un o’r categorïau a restrir uchod, a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn ar eu rhan, mae'n rhaid i chi gael eu caniatâd ysgrifenedig. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn rhiant neu warcheidwad plentyn 16 oed neu iau ac yn dymuno cwyno ar eu rhan.
Gallwch hefyd gwyno am sut mae heddlu'n cael ei redeg. Er enghraifft, gallwch gwyno am safonau plismona neu bolisi plismona.
Nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud cwyn. Fodd bynnag, os ydych yn cwyno am rywbeth a ddigwyddodd fwy na 12 mis yn ôl, dylech egluro pam na wnaethoch gwyno yn gynt.
Mae'n rhaid cyfeirio rhai cwynion atom (mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn y Canllawiau Statudol ar system gwynion yr heddlu).
If you are trying to raise concerns about something you have seen on social media, in the news, or heard about from another person, you may not be considered to be negatively affected meaning your complaint may not be processed.
Further information on this is available in our Statutory guidance on the police complaints system.
Nid oes terfyn amser ar wneud cwyn, ond mae'n well ei wneud cyn gynted â phosibl ar ôl i'r digwyddiad ddigwydd.
Os ydych yn gwneud cwyn fwy na 12 mis ar ôl y digwyddiad dylech esbonio'r rheswm am yr oedi. Fodd bynnag, nid yw esbonio'ch rhesymau yn gwarantu y bydd y gŵyn yn cael ei hymchwilio.
Na. Nid ydym yn cynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb. Y ffordd orau o wneud eich cwyn yw'n uniongyrchol i'r heddlu dan sylw. Fel arall, gallwch gwyno drwy ein ffurflen gwyno ar-lein.
Ar ôl gwneud cwyn
Ar ôl ei dderbyn, bydd y person sy'n delio â'ch cwyn yn cysylltu â chi (fel arfer o fewn tair wythnos) i sicrhau bod ganddynt yr holl fanylion am eich cwyn. Dylent ofyn i chi beth rydych eisiau ei weld yn digwydd. Er enghraifft, efallai y byddwch am i ymddiheuriad, problem gael ei hunioni, neu i'r heddlu gael eu dwyn yn gyfrifol neu ddysgu o'r hyn a aeth o'i le.
Bydd y person sy’n delio â’ch cwyn yn gallu dweud wrthych sut y bydd yn delio â’ch cwyn, a beth sy’n debygol o ddigwydd o ganlyniad. Er enghraifft, efallai y byddant yn rhoi gwybodaeth neu esboniad i chi am yr hyn a ddigwyddodd.
Os oes angen ymchwilio ymhellach i'ch cwyn, dylai adran safonau proffesiynol yr heddlu, neu'ch corff plismona lleol gofnodi'ch cwyn a rhoi gwybod i chi eu bod wedi gwneud hyn. Mae'n rhaid cofnodi rhai cwynion yn ffurfiol.
Gallwch ofyn i'ch cwyn gael ei chofnodi'n ffurfiol. Mae cofnodi cwyn yn golygu bod ganddi statws ffurfiol o dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002. Yna mae'n rhaid ymdrin â hi yn unol â rheolau a chanllawiau ffurfiol.
Bydd yr heddlu neu sefydliad perthnasol hefyd yn ystyried os dylid cyfeirio eich cwyn atom. Mae'n rhaid iddynt gyfeirio'r digwyddiadau mwyaf difrifol atom.
Mae’n bosibl y bydd yr heddlu’n gofyn i chi sut yr hoffech gael eich hysbysu – gallai hyn fod dros y ffôn, drwy lythyr, e-bost neu wyneb yn wyneb. Byddwch yn derbyn diweddariad o leiaf bob 28 diwrnod ac ar ddiwedd eich cwyn.
Bydd yr heddlu yn asesu eich cwyn ac yn ystyried sut i ymdrin â'ch cwyn mewn ffordd resymol a chymesur. Dyma rai o’r camau gweithredu a allai ddeillio o’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn:
- darparu gwybodaeth, neu esboniad
- gallai goruchwyliwr gynnig cyngor a nodi anghenion hyfforddi
- rhoi ymddiheuriad ar ran yr heddlu
- weithiau gallai fod yn rhesymol peidio â chymryd unrhyw gamau ychwanegol
- gallai swyddog fyfyrio ar ei berfformiad gyda'i oruchwyliwr a gweithredu
- newid polisi neu weithdrefnau’r heddlu
Bydd y rhan fwyaf o gwynion yn cael eu trin heb ymchwiliad. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, bydd yr heddlu yn cynnal ymchwiliad i'ch cwyn. Mae'n rhaid ymdrin â rhai cwynion yn y modd hwn. Gall y person sy’n delio â’ch cwyn osod ‘cylch gorchwyl’. Mae cylch gorchwyl yn egluro beth fydd yr ymchwiliad yn edrych arno. Os cynhyrchir y rhain, dylech dderbyn copi. Cynhelir y rhan fwyaf o ymchwiliadau gan yr heddlu neu'r adran safonau proffesiynol. Dim ond yr achosion mwyaf difrifol y byddwn yn ymchwilio iddynt, megis y rhai sy'n ymwneud â marwolaeth neu anaf difrifol yn dilyn cyswllt â'r heddlu.
Dylech gael digon o wybodaeth ar ddiwedd yr ymchwiliad i ddeall beth sydd wedi digwydd yn ystod yr ymchwiliad, a pha benderfyniadau a wnaed. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael copi o adroddiad yr ymchwiliad.
Beth bynnag yw canlyniad eich cwyn, mae'r wybodaeth a roddwch yn helpu'r gwasanaeth heddlu a'r IOPC i nodi tueddiadau a phatrymau ehangach. Mae hefyd yn ein helpu i nodi dysgu i ddylanwadu ar newidiadau mewn plismona.
Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich cwyn, efallai y gallwch wneud cais am adolygiad neu apêl i'r heddlu. Dylai'r heddlu y gwnaethoch gwyno iddo anfon llythyr neu e-bost atoch sy'n dweud wrthych os oes gennych hawl i adolygiad, neu i apelio.
Os oes gennych hawl i adolygiad neu apêl, bydd y llythyr neu'r e-bost hefyd yn dweud wrthych pa sefydliad fydd yn ymdrin â'ch adolygiad, neu apêl. Gallai hyn fod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yr heddlu neu’r IOPC, yn dibynnu ar sut yr ymdriniwyd â’r gŵyn. Mae gennych 28 diwrnod ar ôl canlyniad eich cwyn i wneud cais am adolygiad, neu apêl.
Os ydych yn anfodlon â ymchwiliad troseddol y mae'r heddlu yn ei gynnal ar hyn o bryd neu wedi gorffen ei gynnal, gallwch wneud cwyn am ymddygiad unrhyw swyddog heddlu neu aelod o staff yr heddlu. Fodd bynnag, ni fyddai hyn o reidrwydd yn arwain at adolygiad o'r ymchwiliad troseddol ei hun.
Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y modd y mae'r heddlu'n delio â mater troseddol. Ni allwn adolygu'r canlyniadau na chyfarwyddo'r heddlu i ailymchwilio i honiad troseddol.