Ein gwaith
Nid ydym yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yn unig. Mae ein timau yn cyflawni cannoedd o ymchwiliadau annibynnol bob blwyddyn. Rydym hefyd yn gwella plismona trwy ein dysgu a'n hymchwil.

Ein cenhadaeth yw gwella plismona trwy oruchwyliaeth annibynnol o gwynion yr heddlu, dwyn yr heddlu i gyfrif a sicrhau bod dysgu yn creu newid.
Mae gennym strategaeth yn ei le i helpu cyflawni hyn, mae ganddi bedwar amcan:
- bod pobl yn gwybod am y system gwynion a'u bod yn hyderus wrth ei ddefnyddio
- bod y system gwynion yn darparu canlyniadau teg sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n dwyn yr heddlu i gyfrif
- bod ein tystiolaeth a'n dylanwad yn gwella plismona
- ein bod yn sefydliad sy'n cyflawni perfformiad uchel
Yma gallwch ddarllen am y gwaith rydym yn ei wneud i helpu cyflawni'r amcanion hyn, yn enwedig ein:
- hymchwiliadau annibynnol
- meysydd allweddol gwaith a gwaith thematig
- argymhellion dysgu
- ymchwil ac ystadegau
- ymdrin ag uwch-gwynion
- ymateb i ymgynghoriadau cenedlaethol
Ymchwiliadau
Darganfyddwch fwy am sut rydym yn penderfynu beth y byddwn yn ymchwilio iddo a beth sy'n digwydd nesaf.Meysydd gwaith allweddol
Dysgwch fwy am ein gwaith thematig, a'r gwahanol fathau o ymchwiliadau rydym yn eu cynnal.Dysgu
Rydym yn rhannu'r hyn rydym yn ei ddysgu trwy ein hymchwiliadau, adolygiadau ac ymchwil i wella ymarfer plismona.Image

Darllenwch am yr ymchwil rydym yn ei wneud a'r ystadegau rydym yn eu casglu.
Ymchwil ac ystadegauImage
