Gweithio i ni
Rydym yn chwilio am bobl i gynnal ein gwerthoedd craidd, ac yn gyfnewid byddwn yn rhoi amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol y gallwch ffynnu ynddo.
Mae ein rolau'n amrywiol iawn. Gallech fod yn ymdrin ag achosion cymhleth, proffil uchel yn aml, gan sicrhau bod gan ein gweithlu seilwaith TGCh effeithlon, yn adrodd am ddata allweddol, gan gyflawni rhaglenni i gefnogi datblygiad cydweithwyr neu ddatblygu strategaeth.
Beth bynnag yw eich rôl, byddwch yn ein helpu i adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.
Rydym wedi ymrwymo i'ch:
• eich trin yn deg, ag urddas a heb wahaniaethu
• eich gwerthuso'n deg a gwobrwyo'ch cyfraniad
• darparu amgylchedd gwaith iach a diogel
• rhoi cyfleoedd i chi a'ch cynorthwyo i gyflawni'ch potensial
• eich helpu i gydbwyso eich bywyd cartref a gwaith
Buddion o weithio gyda ni
Mae gweithio hybrid yn golygu ein bod yn gallu rhoi cymysgedd o weithio o bell, wyneb yn wyneb ac ar safle ar waith. Ni ddylai neb ddisgwyl gweithio o bell trwy'r amser, ac ym mhob rôl mae angen am weithio ar y safle neu wyneb yn wyneb.
Mae gweithio hybrid hefyd yn cynnig llawer o fuddion gan gynnwys cefnogi diwylliant hyblyg, hyrwyddo morál ymhlith cydweithwyr, helpu lleihau ein hôl troed carbon, gwella lles a chynhyrchiant. Mae'r hyblygrwydd mae ein model gweithio yn ei gyflwyno yn ein helpu i gadw a denu gweithlu o'r ansawdd uchaf.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
- cymysgedd o weithio o bell, wyneb yn wyneb ac ar y safle.
- opsiwn i brynu cyfarpar wedi'i gymeradwyo a hawlio yn ôl trwy dreuliau
- coffïau Sgwrs - mae'r sgyrsiau anffurfiol ar-lein hyn yn helpu staff i gyfarfod â chydweithwyr yn ein hamgylchedd gwaith lle mae llai o gyfleoedd ar gyfer sgyrsiau swyddfa ad-hoc
- oriau cywasgedig, oriau rhan amser, rhannu swyddi (os yn gymwys)
Mae ein saith swyddfa wedi'u lleoli yn Birmingham, Caerdydd, Canol Llundain, Croydon, Sale, Wakefield a Warrington.
Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori â’n cyrff ymgynghorol ynghylch newidiadau arfaethedig i’n polisi gweithio hybrid a fydd yn ei wneud yn ofynnol i’r holl staff weithio 20% o’u horiau cytundebol yn eu swyddfa (neu swyddfa arall am resymau busnes) o 1 Medi a chynyddu i 40% o Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mae amser mynychu swyddfa yn cynnwys hyfforddiant personol, cyfarfodydd â rhanddeiliaid a theuluoedd, a mynychu digwyddiadau.
- 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
- Opsiynau i gario drosodd, prynu neu werthu gwyliau blynyddol
- Gwyliau tadolaeth gwell
- Mynediad at Gynllun Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil
- Mae fersiynau'n cynnwys Alpha, Classic, Classic Plus, Nuvos, Premium. Mae cyfraniad SAYH yn dibynnu ar eich cyflog ac yn dechrau o 26.6%
- Mae'r cyfrif pensiwn partneriaeth yn ddewis amgen i'r Cynllun Pensiwn Gwasanaeth Sifil ac mae'n cael ei reoli gan drydydd parti. Bydd SAYH yn talu cyfraniad perthynol i oedran o rhwng 8% a 14.75%. Os ydych yn penderfynu cyfrannu, bydd SAYH yn talu swm ychwanegol i gydweddu â'ch cyfraniad hyd at 3% o'ch enillion pensiynadwy.
- Opsiwn i ychwanegu at eich pensiwn naill ai â chyfraniadau misol uwch o'ch cyflog neu dalu cyfandaliad
Rydym wedi ymrwymo i hyfforddi ein pobl i sicrhau eu bod yn hollol ymwybodol o bob polisi perthnasol a pham maen nhw'n bwysig i'n gwaith. Mae ein hyfforddiant cynefino corfforaethol ac urddas yn y gwaith yn orfodol i'r holl staff. Mae'n rhaid i bob rheolwr fod wedi mynychu ein hyfforddiant 'rheoli gweithlu amrywiol', yn ogystal â chwrs hyfforddfiant rheoli naw diwrnod a gynlluniwyd yn benodol ar ein cyfer ni.
Mae ein hymchwilwyr hefyd yn cael hyfforddiant arbennig sy'n cwmpasu meysydd fel cysylltu â theuluoedd, camdriniaeth ddomestig ac iechyd meddwl. Mae'n rhaid i'n holl ymchwilwyr a rheolwyr gwaith achos fynychu hyfforddiant wedi'i deilwra ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
- Hyfforddi
- Mentora
- Rhaglenni datblygu mewnol
- Prentisiaethau, cymwysterau proffesiynol, ac achrediad
- E-ddysgu
- Hyfforddiant
- Cysgodi
- Secondiadau
- Cyfle i arwain rhwydweithiau staff
- Wythnos Dysgu yn y Gwaith
- Perfformiad misol a thrafodaethau datblygiad â'ch rheolwr llinell
- Dyddiad rhwydwaith staff
- Rhaglen fentora o chwith
- Gweithdai amrywiaeth a chynhwysiant yn ysgogi ymwybyddiaeth o nodweddion gwarchodedig, gyda siaradwyr mewnol ac allanol
- Dathliad o ddigwyddiadau fel Pride, mis hanes LHDTC+, mis Hanes Du, mis Treftadaeth De Asia, Panel Ieuenctid SAYH, wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, Dyddiad Menopos y Byd, Dydd Gŵyl Dewi a llawer mwy
- Paneli amrywiol ar gyfer asesiadau
- Gwasanaeth cwnsela ar gyfer grwpiau wedi'u diogelu
Rydym yn seithfed allan o 105 o sefydliadau Gwasanaeth Sifil ar gyfer llesiant. Rydym yn darparu amrediad o gymorth i'n pobl i'w galluogi i siarad yn hyderus ac yn derbyn cymorth mewn cysylltiad â materion neu bryderon y gallant fod yn eu cael yn y gwaith neu gartref. Rydym hefyd yn annog staff i godi materion yn gyfrinachol naill ai'n ffurfiol neu'n anffurfiol trwy amrywiaeth o lwybrau.
Mae ein cymorth llesiant yn cynnwys:
- Llinell gymorth 24/7 gyfrinachol a gwasanaeth cwnsela am ddim
- E-gwnsela LifeChat
- Cefnogaeth Cymheiriaid Cymorth Gwytnwch Straen a Thrawma i Weithwyr - cynorthwyo staff yn dilyn bod yn agored i ddigwyddiadau trawmatig posibl ar straeniau bywyd a gwaith o ddydd i ddydd
- Elusen ar gyfer Gweision Sifil - cynorthwyo Gweision Sifil y gorffennol a'r presennol, gan gynnig cymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol.
- Addasiadau rhesymol a phasbortau
- Addasiadau gweithle
Mae'n grwpiau a rhgwydweithiau staff yn cynnig cyngor a chymorth i gydweithwyr, yn ogystal ag i'r sefydliad yn ystod gwelliant parhaus:
- Mae'n grwpiau a rhgwydweithiau staff yn cynnig cyngor a chymorth i gydweithwyr, yn ogystal ag i'r sefydliad yn ystod gwelliant parhaus:
- Rhwydweithiau Staff - Mae gennym chwe rhwydwaith staff. Mae pob un yn canolbwyntio ar nodwedd warchodedig mae'r gyfraith yn ei diogelu rhag gwahaniaethu. Mae'r rhwydweithiau yn cael eu rhedeg gan staff, ar gyfer staff.
- Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) - Undeb ddemocrataidd sy'n cynrychioli aelodau o'r Gwasanaeth Sifil a'r llywodraeth
- Gosod rhywfaint o'ch cyflog cyn iddo gael ei drethu yn gyfnewid am gar newydd sbon
- Mae'n cynnig yswiriant, holl wasanaethu, cynnal a chadw ac atgyweiriadau, torri i lawr, MOT
- Dim blaendal
- Dim gwiriad credyd
- Cyfle i brynu beic newydd sbon yn hollol ddi-dreth
- Gallu arbed tua 30% o'r gost manwerthu
- Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
- Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil am ffi bach. Mae hyn yn cynnig gostyngiadau ar atyniadau, sioeau theatr, cyngherddau, gweithgareddau hamdden, digwyddiadau chwaraeon, sinema a rhagor