Rolau eraill gyda ni
Mae gennym amrediad eang o wasanaethau corfforaethol a rolau cymorth sy'n cynnig gwir her a phwrpas. Beth bynnag y bo'r rôl, byddwch chi'n ganolog i'n hannibyniaeth ac yn ein helpu i sicrhau y gall pawb gael ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.
Rydym yn gwasanaethu pobl o bob rhan o fywyd ac yn anelu at adlewyrchu'r amrywiaeth hon yn ein sefydliad ein hunain. Nid ydym yn chwilio am bobl o gefndir plismona neu gyfreithiol yn unig, bydd pob cefndir yn cael ei ystyried ar gyfer ein rolau sydd ddim yn ymchwiliadau.
Mae ein rolau yn torri ar draws llawer o swyddogaethau, gan gynnwys:
- Swyddfa Breifat – cynorthwyo ein llywodraethiant ac uwch arweinyddion
- Gwasanaethau Cyfreithiol – cyfreithiol, diogelu data a Rhyddid Gwybodaeth
- Pobl – cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, llesiant, adnoddau dynol, caffael talent, systemau pobl, cyflogres, dysgu a datblygu, rheoli talent, iechyd a diogelwch, cynllunio a datblygu sefydliadol
- Strategaeth ac Effaith – cyfathrebiadau, perfformiad, gwybodaeth a rhoi gwybodaeth, trosolwg, gwella ansawdd a gwasanaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymchwil a gwerthuso, polisi ac ymgysylltu, strategaeth, cynllunio busnes, rheoli prosiectau, data, arloesi a gwella
- Gwasanaethau Corfforaethol – cyfrifeg ariannol, cyfrifeg reoli, trafodion, caffael, cyfleusterau, risg ac archwilio
- TGCh – cymorth, diogelwch gwybodaeth a sicrwydd gwybodaeth, rheoli perthnsoedd busnes, rheoli datrysiadau a chofnodion, seilwaith
Mae’r rolau hyn yn cynnwys:
- Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid – un o'r mannau cyswllt cyntaf ar gyfer SAYH. Mae'r tîm yn cynnig cyngor llafar ac ysgrifenedig i'r cyhoedd ac asiantaethau eraill ynghylch proses ffurfiol cwynion yr heddlu.
- Gwaith achos – mae'r tîm hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o achosion, apeliadau a phynciau, yn amrywio o adolygiadau yn dilyn ymchwiliadau i gwynion am yr heddlu, i adroddiadau difrifol a gwblheir gan yr heddlu.
- Uned Asesu – pwynt cyswllt cyntaf arall , sy'n darparu cyngor a chanllawiau i achwynwyr, Awdurdodau Priodol, a rhanddeiliaid eraill.
- Canolfan Weinyddol – yn darparu cymorth gweinyddol i'r timau mewn Swyddogaethau Cenedlaethol
- Tîm Teipio – yn darparu gwasanaethau trawsgrifo
Mae'n timau arbenigol yn cynnwys:
- Datgelu – yn darparu capasiti datgelu i ymchwiliadau
- Arddangosiadau – yn darparu cyngor a chanllawiau ar reoli arddangosiadau
- Cymorth HOLMES – yn darparu sicrwydd ansawdd o'r deunydd ymchwiliol ac yn sicrhau bod cronfa ddata HOLMES yn cynorthwyo'n hymchwiliadau
- Uned Cymorth Ymchwilio – yn darparu cymorth i dimau ymchwilio gan gynnwys rheoli dogfennau, archifo a rheoli'r pwll o geir fflyd