Ein pobl
Rydym yn angerddol am wella hyder y cyhoedd mewn plismona trwy sicrhau bod yr heddlu’n atebol am eu gweithredoedd a bod gwersi’n cael eu dysgu.
Mae ein gwaith yn heriol ac yn uchel ei broffil, ac felly mae ein pobl o bob sector o gymdeithas, ac mae ganddynt amrediad eang o sgiliau. Gan ganolbwyntio ar y ffeithiau, rydym yn gytbwys, yn deg ac yn hollol annibynnol. Nid yr heddlu ydym ni, mewn gwirionedd mae llai na 29 y cant o'n staff wedi gweithio i'r heddlu.
Ein tîm arweinyddiaeth
Mae ein Cyfarwyddwr Cyffredinol yn arwain y tîm gweithredol ac mae’n cadeirio ein Bwrdd Unedol, sy’n cynnwys chwe chyfarwyddwr anweithredol. Darllenwch ragor am rôl y Bwrdd Unedol yn ein hadran lywodraethiant.
Yn ôl y gyfraith, ni all ein Cyfarwyddwr Cyffredinol fod wedi gweithio i'r heddlu erioed. Nid oes un o'n tîm gweithredol na chyfarwyddwyr wedi gweithio i unrhyw hedddluoedd na sefydliadau o dan ein hawdurdodaeth. Mae ein cyfarwyddwyr rhanbarthol yn goruchwylio gweithrediadau o fewn pob un o'r chwe rhanbarth a amlinellir yn y map isod.
I gael gwybod am dreuliau, rhoddion a lletygarwch a chofrestr diddordebau ein cyfarwyddwyr, ewch i'n tudalen ymagwedd at dryloywder.
IOPC people
Ein Gwerthoedd
Rydym yn parchu hawliau pob unigolyn, tra'n cael at galon rhai o'r achosion mwyaf difrifol a sensitif. Yn bennaf oll, rydym yn ymdrechu i ennill a chadw hyder pawb rydym yn cyfarfod â nhw trwy eu trin â pharch, cywirdeb a gonestrwydd.
Rydym yn teimlo'n freintiedig i fod yn geidwaid system gwyno'r heddlu. Rydym yn gwerthfawrogi ymddiriedaeth y cyhoedd a’r heddlu ac yn ymrwymo i fod yn gyfiawn ac yn deg wrth ddatgelu’r gwirionedd. Rydym yn cydnabod bod canlyniad cyfiawn yn dibynnu ar fod yn ddiduedd ac yn dryloyw wrth gyrraedd y gwirionedd am yr hyn a ddigwyddodd.
Mae gennym ddiwylliant cynhwysol. Rydym yn deg ac yn ddiduedd wrth i ni drin pob unigolyn. Rydym yn gweithio ar draws ffiniau, yn fewnol yn ogystal ag yn allanol, yn cydweithio ac yn adeiladu perthnasoedd cryf.
Rydym yn credu y dylai pawb fod yn arweinydd ac â rhan mewn llunio cyfeiriad y sefydliad. Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol a heriol lle gall pobl ffynnu a chyrraedd eu potensial. Rydym yn ymddiried yn ein pobl i wneud y pethau iawn. Rydym yn annog cymryd risgiau a fesurwyd a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. Pan wneir camgymeriadau gwirioneddol, byddwn yn cynorthwyo pobl ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella. Rydym yn sicrhau y gall pobl gyflwyno cwynion heb brofi triniaeth annheg.
Mae ein gwaith yn gofyn i ni fod yn eofn, yn wydn ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r cyhoedd. Rydym yn ystyried ein dyletswyddau fel gweision cyhoeddus o ddifrif ac adlewyrchir ein hymrwymiad yn ein gwaith. Rydym yn cwrdd â heriau â dyfalbarhad i gyflawni nodau unigol a sefydliadol.
Diffinnir gwerth ein gwaith nid yn unig yn ôl maint, ond yn ôl yr effaith sydd gan ein gwaith ar blismona a hyder y cyhoedd. Rydym yn diffinio ansawdd yn ôl pa mor dda mae ein gwaith yn bodloni anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth. Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar feysydd sy'n gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau.