Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i gynnal gweithle wedi'i rymuso a chynhwysol, a gwasanaethau gwell i bawb. I gyflawni hyn, rydym yn rhoi pobl o gefndiroedd, diwylliannau a phrofiadau gwahanol wrth galon popeth a wnawn:
- Rydym wedi cyflwyno dull newydd, mwy cynhwysol o recriwtio,
- Fel cyflogwr Stonewall safon arian, rydym yn parhau i ymrwymo ein hunain i fod yn gyflogwr LHDTC+ trwy waith ein Rhwydwaith Staff Pride LHDTC+, gan greu amgylcheddau croesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a chwiar.
- Rydym yn llofnodwr Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned, sy'n cynnwys pump galwad i weithredu ar gyfer arweinwyr a sefydliadau ar draws pob sector.
- Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym hefyd wedi ymrwymo i ddileu’r rhwystr i bobl anabl ffynnu yn y gweithle.
- Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio'n barhaus i'n gwneud yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Allyship i Safonau’r Iaith Gymraeg a'n Polisi Know the Line.
Pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau
Mae'n safonau gwasanaeth yn amlinellu'r hyn y gallwch ei ddisgwyl o'n sefydliad wrth ddod i gysylltiad â ni. Wrth ddarparu ein gwasanaeth i chi, gallwch ddisgwyl i ni:
- wneud addasiadau rhesymol yn y ffordd rydym yn cyflawni'n gwasanaethau i'ch anabledd
- eich trin â chwrteisi a pharch
- dilyn unrhyw sylwadau neu bryderon rydych yn eu codi am y gwasanaeth a gyflawnwn
- meddwl am effaith ein strategaethau a'n polisïau ar y bobl a effeithir ganddynt a chymryd pob cam rhesymol i'w cynnwys yn y broses ddatblygu ac ymgynghori
Rydym wedi datblygu canllawiau ar gyfer yr heddlu ar sut i ymdrin â honiadau o wahaniaethu. Cafodd y canllawiau eu datblygu yn dilyn ymgynghori â grwpiau gwirfoddol a chymunedol, rhanddeiliaid plismona, y Comisiwn Cydraddoldeb a hawliau Dynol a Chymdeithas Cyfraith Gwahaniaethu.
Maen nhw'n gosod safonau y byddwn yn dal heddluoedd iddynt i pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am adolygiadau ac apeliadau. Maen nhw hefyd yn safonau y dylai achwynwyr, teuluoedd a phartïon eraill â diddordeb ddisgwyl pan fydd honiadau o wahaniaethu yn cael eu gwneud yn erbyn yr heddlu. Dysgwch ragor am ein hymchwil a gwaith arall sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil. e police.
Lle rydym yn adnabod y bydd ymchwiliad yn cael effaith sylweddol ar hyder cyhoeddus, neu lle gallai cyfranogaeth gymunedol elwa o'n hymchwiliad, byddwn yn ystyried sefydlu grŵp cyfeirio cymunedol.
Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys aelodau cymunedau lleol a sefydliadau sy'n tynnu ar eu gwybodaeth a'u mewnwelediad arbenigol er mwyn cynorthwyo'r ymchwiliad. Darllenwch ragor am y gwaith a wnawn i ymgysylltu â chymunedau gwahanol.
Safonau’r Iaith Gymraeg
Dysgwch ragor am ein hymrwymiad i ateb Safonau'r iaith Gymraeg.Gofyn am wybodaeth
Dysgwch am sut y gallwch ofyn am wybodaeth am ein gwaith, yn ogystal â manylion ar sut rydym yn rheoli data personol.Addasiadau rhesymol
Darllenwch ein polisi addasiadau rhesymol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.Ein staff
Gall ein gweithwyr ddisgwyl i gael eu trin yn deg a heb wahaniaethu. Rydym yn trin ein gilydd ag urddas a pharch mewn dull teg a chyson, ac nid yw ymddygiad amhriodol yn cael ei oddef.
Yn yr adrannau isod, gallwch ddarllen am ein hadroddiadau ethnigrwydd a bwlch cyflog rhwng rhywiau a dysgu rhagor am amrywiaeth staff, ein rhwydweithiau staff a gwasanaethau cymorth.
Mae'n gweithdrefnau recriwtio a dethol yn sicrhau ein bod yn recriwtio'r unigolyn gorau ar gyfer y swydd. Mae ein disgrifiadau swyddi yn adnabod y sgiliau, profiad a chymwysterau allweddol sydd eu hangen ar gyfer pob rôl. Yn ystod recriwtio, nid ydym yn ystyried unrhyw ffactorau nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i allu unigolyn i wneud y swydd. Rydym yn dethol staff newydd heb duedd ac mae mynediad i gyfleoedd yn seiliedig ar haeddiant yn unig.
Gallwch ddysgu rhagor am wybodaeth am gefndiroedd ein staff yn ein gwybodaeth amrywiaeth staff.
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Cafodd y ffigurau a amlinellir isod eu cyfrifo gan ddefnyddio'r methodolegau safonol a amlinellir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau).
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2023 a Thablau Data 2023
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 a Thablau Data 2022
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2021 a Thablau Data 2021
Bwlch cyflog ethnigrwydd
Gallwch hefyd ddarllen ein hadroddiad Bwlch Cyflog Ethnigrwydd a gweld y data cyfatebol.
Adroddiad Bwlch Cyflog Ethnigrwydd 2022 a'n tablau data ar gyfer Medi 2022.
Adroddiad Bwlch Cyflog Ethnigrwydd 2021 a Thablau Data 2021
Adroddiad Bwlch Cyflog Ethnigrwydd 2020 a Thablau Data 2020
Mae ein data ar gyfer blynyddoedd blaenorol ar gael ar ein safle Archifau Cenedlaethol.
Rydym yn ymroddedig i gynyddu graddfa'n Cynlluniau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth trwy geisio ffyrdd newydd yn barhaus i greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu. Yma yn SAYH, rydym yn cynyddu ein cymorth i grwpiau a dangynrychiolir ar lefel rheoli i gyrchu rhaglenni datblygu, ac rydym yn cynyddu ein graddfa o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Rydym hefyd yn lansio hyfforddiant ledled y gweithrediad i staff ar adnabod gwahaniaethu o fewn ein hymchwiliadau.
Gwybodaeth am amrywiaeth staff 2022/23
Gwybodaeth am amrywiaeth staff 2021/22
Gwybodaeth am amrywiaeth staff 2020/21
Rhwydweithiau staff
Mae gennym chwech rhwydwaith, sy'n cwmpasu'r naw nodwedd warchodedig a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg: Oedran, Galluogi, pride :LHDTC+, Hil, Crefydd a Chred; Rhyw a'r Teulu; ac iaith Gymraeg. Mae'r rhwydweithiau hyn yn chwarae rôl hanfodol mewn cynorthwyo ein pobl ac maen nhw'n cymryd rhan yn holl agweddau ein gwaith, gan ein helpu i fod yn fwy ymatebol i a chynrychioladol o'n cymunedau.
Achrediadau
Rydym wedi ymrwymo i'r Siarter Hil yn y Gwaith - Busnes yn y Gymuned, rydym yn bencampwr Amrywiaeth Stonewall, ac rydym hefyd yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Prentisiaethau
Darllenwch ein hadroddiad Prentisiaethau Blynyddol yma