Safonau’r Iaith Gymraeg
Creodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ddyletswydd ar sefydliadau sector cyhoeddus sy’n gweithredu yng Nghymru i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
O’r ddyletswydd hon i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, crëwyd Safonau’r Gymraeg. Mae’r Safonau’n nodi’n benodol beth sy’n rhaid i’r IOPC ei wneud i gydymffurfio â’r gyfraith mewn perthynas â thrin y Gymraeg heb fod yn llai ffafriol na’r Saesneg.
I'r rhai sy'n dymuno cysylltu â ni, beth mae hyn yn ei olygu yw bod croeso i chi gysylltu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ymateb i chi yn y Gymraeg. Yn ogystal, bydd unrhyw wybodaeth a gynhyrchwn sy’n berthnasol i randdeiliaid yng Nghymru ar gael yn y Gymraeg.
Mae’r rhestr lawn o Safonau y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw i’w gweld yn ein hysbysiad cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg.
Adroddiad monitro blynyddol Safonau’r Iaith Gymraeg
Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn ei wneud yn ofynnol i ni lunio adroddiad blynyddol i egluro sut rydym wedi cydymffurfio â’r canlynol:
- safonau darparu gwasanaeth
- safonau llunio polisi
- safonau gweithredu
Gallwch ddarllen ein hadroddiad blynyddol diweddaraf ar sut rydym wedi cydymffurfio â'r safonau.
Adborth am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Iaith Gymraeg
Os teimlwch nad ydym wedi bodloni ein dyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio ag unrhyw un o Safonau’r Iaith Gymraeg sy’n berthnasol i ni, rhowch wybod i ni drwy roi eich adborth i ni.
Gallwch hefyd adrodd cwynion i Gomisiynydd y Gymraeg.
Dysgwch sut gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg gyda ni
Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg gyda SAYH, rydym yn cymryd ein dyletswydd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o ddifrif. Rydym wedi cymryd camau i sicrhau bod gwasanaeth Cymraeg ar gael os oes angen ein gwasanaethau arnoch.
Learn how you can use Welsh with us
You are welcome to use Welsh with IOPC, we take our responsibility to provide services in Welsh very seriously and have taken steps to ensure that a Welsh language service is available to you should you need to contact us.