Adborth am ein gwasanaeth
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r safon uchaf posibl o wasanaeth cwsmeriaid, ond weithiau gall pethau fynd o'u lle. Rhowch wybod i ni os ydych yn anhapus neu'n anfodlon â lefel y gwasanaeth a gawsoch. Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn ceisio datrys materion yn gyflym ac ar y lefel gywir.
Yn aml, y ffordd fwyaf hawdd a chyflym o ddatrys hyn yw siarad â'r person yr ydych wedi bod yn delio ag ef/hi. Efallai y bydd ef/hi yn gallu delio â'r mater yn y fan a'r lle. Gyda phob cwyn neu fynegiant o anfodlonrwydd byddwn yn:
- ceisio cywiro pethau
- ceisio datrysiad yn gynnar
- hyblyg yn ein hymagwedd i ddiwallu eich anghenion
- canolbwyntio ar y cwsmer a delio â phob pryder yn brydlon
- agored ac atebol
- defnyddio'r wybodaeth i wella ein gwasanaeth
Y ffordd fwyaf hawdd o roi adborth yw trwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Bydd hyn yn cael ei drin gan ein Tîm Gwella Ansawdd a Gwasanaeth. Byddant yn cydnabod eich cwyn ac yn ceisio ei datrys o fewn 20 diwrnod gwaith. Os credwn y gallai gymryd fwy o amser na hyn, byddwn yn cysylltu â chi ac yn esbonio pa mor hir y disgwyliwn iddo gymryd. Nid mynd i’r afael â phryderon am y penderfyniadau a wneir yn eich achos yw eu rôl.
Ffyrdd eraill o roi adborth
Ysgrifennwch atom: Tîm Adborth Gwella Ansawdd a Gwasanaeth, Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu, Blwch Post 473, Sale, M33 0BW
Ffoniwch ni: 0300 020 0096 (gallwch adael neges llais trwy ofyn am gael siarad â'r neges llais Gwella Ansawdd a Gwasanaeth)
E-bostiwch ni: [email protected]
Dylai pob cwyn:
- gynnwys eich gwybodaeth gyswllt bersonol – enw, cyfeiriad, rhif ffôn/ffôn symudol a chod post
- gynnwys unrhyw rifau cyfeirnod sydd wedi'u cynnwys ar lythyrau rydym wedi'u hanfon atoch
- amlinellu pa aelod/au o staff rydych yn cwyno amdanynt – os yn berthnasol
- esbonio'n glir pam rydych yn gwneud cwyn ac am beth mae eich cwyn
- gynnwys unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich cwyn
Ein polisïau
Rydym wedi cynhyrchu dau bolisi sy'n disgrifio sut i wneud cwyn neu roi adborth am ein gwaith, a beth allai ddigwydd.
Mae ein Polisi Cwynion ac Adborth yn esbonio sut i roi eich adborth i ni, gwneud awgrymiadau neu gwyno am ein gwaith. Mae'n nodi sut rydym yn ymdrin ag adborth a chwynion am ein gwasanaeth neu ein staff.
Mae Polisi Cwynion y Cyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwyr Anweithredol yn esbonio sut rydym yn ymdrin â chwynion sy’n ymwneud ag ymddygiad ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol neu gyfarwyddwyr anweithredol.