Ein safonau gwasanaeth
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r safon uchaf posibl o wasanaeth cwsmeriaid. Mae ein safonau gwasanaeth yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda chi a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl oddi wrthym:
- Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall eich amgylchiadau a'ch anghenion. Byddwn yn dweud wrthych beth gallwn ni ei wneud a beth na allwn ni ei wneud, a'r rhesymau pam.
- Byddwn yn dweud wrthych am sefydliadau eraill a allai eich helpu os na allwn ni.
- Mae gennym broses eglur a thryloyw i ymdrin ag unrhyw adborth sydd gennych am ein gwasanaeth.
- Byddwn yn eich trin â pharch a chwrteisi bob amser.
- Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaeth yn hygyrch ac yn diwallu eich anghenion.
- Byddwn yn gofyn i chi sut yr hoffech gael gwybodaeth am gynnydd ein gwaith, a pha mor aml yr hoffech i ni gysylltu â chi.
- Byddwn yn agored ac yn onest gyda chi ynghylch pa mor hir y credwn y bydd ein gwaith yn ei gymryd.
- Byddwn yn esbonio ein prosesau i chi a'r hyn y gallwch ddisgwyl gennym ar bob cam.
- Byddwn yn dweud wrthych beth yw ein canfyddiadau mewn perthynas â'ch achos, a fydd yn annibynnol ac yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni.
- Byddwn yn ymddiheuro yn ddidwyll ac yn ddifuant pan na fydd ein gwasanaeth yn cyrraedd y nod, neu pan fyddwn wedi gwneud camgymeriadau.
- Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn ddiogel ac yn ei ddefnyddio fel y disgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd yn unig.
Cyfathrebu â chi
Byddwn yn gwrtais, yn broffesiynol ac yn eich trin â pharch. Rydym yn deall y gall pobl sy'n cysylltu â ni fod yn rhwystredig neu'n ddig weithiau. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i warchod diogelwch a lles ein staff ac ni fyddwn yn derbyn ymddygiad ymosodol na bygythiol.
Byddwn yn rhoi manylion cyswllt uniongyrchol i chi ar gyfer yr aelod perthnasol o staff pan fyddwn yn ymdrin â'ch cwyn neu apêl, neu'n ymchwilio i'ch achos. Os nad yw'r person y mae angen i chi siarad ag ef/hi ar gael, gallwch adael neges llais i ofyn am alwad yn ôl.
Fel arall, gall ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ddatrys eich ymholiad neu eich rhoi mewn cysylltiad â'r tîm perthnasol. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg. Ein nod yw cydnabod ymholiadau e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith a darparu ymateb llawn o fewn deng niwrnod gwaith. Fel arfer bydd negeseuon ffôn yn cael eu hateb erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf.
Nid ydym yn gweithredu gwasanaeth wyneb yn wyneb. Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu'n ysgrifenedig. Mae’n bosibl y caiff galwadau eu recordio i’n hamddiffyn ar y cyd, ac at ddibenion hyfforddi. Rydym ond yn derbyn ymwelwyr i'n swyddfeydd sydd ag apwyntiad wedi'i drefnu o flaen llaw.
Gallai fod angen i ni gyfyngu ar y ffordd rydym yn cyfathrebu â chwsmeriaid unigol ac amlder y cyswllt hwnnw er mwyn rheoli ein gwaith yn effeithiol a darparu gwasanaeth teg i bawb. Dim ond mewn rhai amgylchiadau y mae hyn yn berthnasol.