Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid

Mae Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn safon diwydiant wedi'i chefnogi gan y llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni gwasanaeth, amseroldeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd staff. Mae'n pwysleisio mewnwelediad cwsmeriaid (gwybodaeth am y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau), gan ddeall profiad y defnyddwyr a mesur bodlonrwydd gwasanaeth yn gadarn.

Cawsom ein hasesu yn erbyn 57 elfen wahanol o'r safon. Roedd yr asesiadau'n golygu tystiolaeth o sut rydym yn ateb y safon, ynghyd ag aseswyr sy'n cyfweld ein staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid.

Mae'r safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn golygu y gallwch ddisgwyl derbyn safon uchel o wasanaeth oddi wrthym, beth bynnag yw'r canlyniad neu benderfyniad. Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall eich amgylchiadau a'ch anghenion. Byddwn yn esbonio ein prosesau i chi a'r hyn y gallwch ddisgwyl oddi wrthym ar bob cam o'n gwaith - a byddwn yn eich trin â pharch a chwrteisi bob amser. Gallwch ddarllen rhagor am ein hymrwymiad i chi yn ein safonau gwasanaeth.

 

Ein hachrediad

Ym mis Mawrth 2020, fe ddechreuon ni ar ein taith Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer®, gan gwblhau ein cylch tair blynedd cyntaf ym mis Mawrth 2022, gan ddangos gwelliannau bob blwyddyn.
Ym mis Mehefin 2023 fe wnaethom ddychwelyd i ddechrau'r cylch tair blynedd, sy'n golygu bod yn rhaid i ni brofi ein cydymffurfiad â phob un o'r 57 elfen o'r safon yn fanwl.  Gwnaethom gyflawni naw graddiad Compliance Plus mewn meysydd o grfyder neilltuol, 45 graddiad Cydymffurfiaeth lle roeddem yn ateb y safon, a thair Cydymffurfiaeth Rannol lle roedd gennym fwy o waith i'w wneud i gyrraedd y safon ofynnol yn llawn.

Ym mis Mehefin 2024 cawsom ein hailasesu, a chynnal ein naw sgôr Compliance Plus (darllenwch fwy am y rhain isod) a chawsom 48 sgôr Cydymffurfiaeth. Am y tro cyntaf ers i'n hasesiadau ddechrau ni chawsom unrhyw sgôr Cydymffurfiaeth Rannol. Mae ein canlyniadau gwell yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella taith SAYH ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth - rydym yn falch o'n cynnydd, a byddwn yn parhau i wrando a gweithredu ar eich adborth.

Disgwylir i’n hadolygiad nesaf gael ei gynnal ym mis Mehefin 2025.

Achrediad Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth I Gwsmeriad. Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid® Y daith hyd yn hyn... 2020: Cylch cyntaf - asesiad llawn, Graddfeydd cydymffurfio, 3 Cydymffurfiaeth Plws, 48 Cydymffurfiaeth, 6 Cydymffurfiaeth Rannol. 2021: Cylch cyntaf - adolygiad blynyddol, Graddfeydd cydymffurfio, 8 Cydymffurfiaeth Plws, 47 Cydymffurfiaeth, 2 Cydymffurfiaeth Rannol. 2022: Cylch cyntaf – adolygiad blynyddol, Graddfeydd cydymffurfio, 10 Cydymffurfiaeth Plws, 45 Cydymffurfiaeth, 2 Cydymffurfiaeth Rannol

Cyflawniadau 2024

Adroddiad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer 2024

Gallwch ddarllen ein hadroddiad diweddaraf i ddysgu am ein defnydd o'r Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer (CSE) fel fframwaith i gyfrannu at gyflawni ein blaenoriaethau sefydliadol. Adroddiad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer 2024