Rolau ymchwiliadol

Mae'n timau ymchwiliadau yn gweithio o fewn ein swyddogaeth Gweithrediadau. Mae gweithrediadau yn cwmpasu tri phrif faes o waith ymchwiliadol:
- Ymchwiliadau rhanbarthol - mae'r timau hyn wedi'u lleoli ledled Cymru a Lloegr ac maen nhw'n gyfrifol am arwain ein hymchwiliadau cadarn, annibynnol o ansawdd uchel.
- Cyfarwyddiaeth Ymchwiliadau Mawr - mae'r tîm yn ymdrin ag ymchwiliadau graddfa fawr, dwys o ran adnoddau, sy'n gyffredinol gymhleth ac o broffil uchel.
- Ymchwiliad Hillsborough - wedi leoli yn Warrington, mae'r tîm hwn yn gyfrifol am ein hymchwiliad annibynnol i weithredoedd yr heddlu yn dilyn trychineb Hillsborough.
Rolau ymchwiliadol
Fel ymchwiliwr dan hyfforddiant, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod yn ymchwiliwr cwbl achrededig (PIP 1). Os oes gennych sgiliau dadansoddol da, llygad am fanylder a'r gallu i weithio gyda phobl o amrywiaeth o gefndiroedd, gallwch fod yn cymryd rhan yn ein hymchwiliadau proffil uchel, cymhleth.
Mae bod yn ein tîm ymchwiliadau yn rôl na allwch baratoi'n llawn amdani byth, ond bydd ein rhaglen ymchwiliwr dan hyfforddiant 12-24 mis yn sicrhau bod gennych y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatgelu'r ffeithiau ac ysbrydoli hyder yn eich gwaith. Fel aelod o un o'n timau, byddwch yn cymryd rhan mewn cyfweliadau, yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth, yn mynychu trengholiadau, ac yn paratoi deunyddiau ar gyfer achosion llys neu gwest. Mewn gwirionedd, byddwch yn chwarae rôl fawr yn ein helpu ni i gyflawni ymchwiliadau o ansawdd uchel sy'n ateb anghenion amrywiol achwynwyr a theuluoedd.
Weithiau, mae'n gallu bod yn anodd ac yn emosiynol heriol. Bydd llawer o'n hymchwiliadau yn llygad y cyhoedd a gall yr achos ddod o dan graffu dwys gan gyfryngau. Gallai fod rhaid i chi fynychu trengholiadau a delio â phobl sy'n rhwystredig a dig.
Er y bydd ein hyfforddiant a'n cymorth yn eich helpu i ddelio â sefyllfaoedd gwahanol, bydd eich cymeriad yr un mor bwysig. Dylai fod gennych y gallu i empatheiddio a chyfathrebu'n gydymdeimladol â phobl ym mhob amgylchiad, yn ogystal â'r gwytnwch i addasu i sefyllfaoedd gwahanol.
Bydd angen meddwl dadansoddol arnoch, y cymhelliant i ddarganfod yr atebion cywir a'r gwytnwch i ymdrin ag ymchwiliadau yn ddiplomataidd ac yn wrthrychol.
Gwrandewch ar Zara a Calum, ein hymchwilwyr dan hyfforddiant:

Gan weithio'n agos gyda theuluoedd mewn profedigaeth, achwynwyr a'r heddlu i sefydlu'r ffeithiau, byddwch yn rhan o'r tîm sy'n cynnal neu'n cynorthwyo amrediad o ymchwiliadau. Bydd hyn yn cynnwys casglu tystiolaeth, cyfweld tystion ac achwynwyr, cymryd datganiadau a pharatoi ffeiliau ar gyfer achosion gwahanol.
Bydd angen i chi weithredu'n deg ac yn drwyadl ym mhob ymchwiliad, gan roi sicrwydd i achwynwyr neu berthnasau mewn profedigaeth am eich didueddrwydd ac annibyniaeth o'r heddlu. Gydag ymagwedd ddadansoddol gref a llygad craff am fanylion wrth gasglu tystiolaeth, bydd gennych y cymeriad i weithio gyda phobl o amrywiaeth o gefndiroedd. Mae hyn yn golygu y dylech fod yn gyfwelydd hyderus, â'r gallu i addasu eich arddull cyfathrebu i gyflawni'r canlyniadau gorau.
Mae bod yn ymchwiliwr yn gallu bod yn rôl drom iawn, gan fynychu trengholiadau a siarad â theuluoedd sy'n galaru o dan y straen mwyaf. Felly bydd angen i chi fod yn wydn a chanolbwyntio ar gyflawni canlyniad teg i bawb sy'n troi atom am gymorth.
Byddwch yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau hollol unigryw, felly mae hon yn rôl na allwch fod yn hollol barod amdani byth. Dyna pam y byddwn yn sicrhau y byddwch yn cael hyfforddiant a datblygiad parhaus i gadw'ch sgiliau yn loyw. Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn dod yn ymchwilydd achrededig llawn (PIP1). Gyda'r cymeriad i rannu'ch mewnwelediadau a gwybodaeth â chydweithwyr, byddwch yn mwynhau'r cwmpas i ddylanwadu ar ymchwiliadau ac yn y pen draw, cyfiawnder cymdeithasol. Byddwch yn rhan o dîm amrywiol sy'n cynrychioli'r amrediad o bobl sy'n dibynnu arnom am gymorth annibynnol. Yn achlysurol, bydd angen i chi hefyd weithio oriau anghymdeithasol ac estynedig fel aelod o'n cyfleuster 24 awr ar alwad.
Os oes gennych rywfaint o brofiad ymchwiliol, neu gefndir mewn ymchwiliad, rôl reoleiddiol, gorfodaeth neu debyg, dyma gyfle ardderchog i ddatblygu'ch sgiliau ymhellach, gan weithio ar amrywiaeth o ymchwiliadau proffil uchel.
Fel prif ymchwilydd, byddwch yn cymryd rhan ym mhob agwedd o ymchwiliadau i droseddu a chamymddygiad honedig, o sefydlu'r cylch gorchwyl gwreiddiol, i gasglu tystiolaeth, cyfweld tystion, dod i gasgliadau, ac ysgrifennu adroddiad terfynol, llawer ohonynt yn cael eu cyhoeddi.
Yn ogystal ag ymweld â mannau digwyddiadau i sicrhau bod pob tystiolaeth yn cael ei diogelu a'i hadfer, disgwylir i chi hefyd fynychu trengholiadau a briffio patholegwyr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fod yn wydn a chanolbwyntio ar ddarganfod y ffeithiau. Bydd eich ymchwiliadau yn aml o dan lygaid y cyhoedd, a chi fydd y prif bwynt cyswllt i achwynwyr, teuluoedd mewn profedigaeth a phartïon eraill â diddordeb. Felly, bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr hyderus a chyfeillgar, â'r gallu i bwyllo a chanolbwyntio o dan bwysau.
I sicrhau eich bod yn barod am heriau unigryw ein gwaith, byddwn yn rhoi hyfforddiant a chymorth parhaus i chi. Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn dod yn ymchwilydd achrededig llawn (PIP2). Mae bod yn brif ymchwiliwr yn rôl gymhleth a boddhaus yn y pen draw, gan gynnig y cyfle i chi weithio gyda phob sector o'r gymuned a chael effaith gadarnhaol ar eu bywydau. Bydd eich dealltwriaeth o gymunedau gwahanol a'ch gallu i ddangos empathi ac uniaethu â nhw yn hanfodol.
Bydd angen sgiliau dadansoddol cryf mewn rôl lle byddwch yn arwain ymchwiliadau. Gallai hyn fod wedi cael ei fagu mewn meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, safonau masnach, cyrff rheoleiddiol, risg, archwilio, profiannaeth, neu orfodaeth.Yn achlysurol, bydd angen i chi hefyd weithio oriau anghymdeithasol ac estynedig fel aelod o'n cyfleuster 24 awr ar alwad.
Gwrandewch ar Rachael, prif ymchwiliwr.

Byddwch yn arwain ac yn datblygu tîm o ymchwilwyr a phrif ymchwilwyr gan sicrhau eu bod yn cyflawni perfformiad uchel ac yn cynnal ymchwiliadau yn deg, yn drwyadl ac yn annibynnol. Ar yr un pryd, byddwch chi wrth galon ein sefydliad yn ystod cyfnod o newid parhaol, gan wneud cyfraniad sylweddol at ein cyfeiriad strategol.
Mae hon yn rôl reoli amrywiol a heriol, gan y byddwch yn canolbwyntio ar wella perfformiad eich tîm, gan sicrhau bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal yn unol â'n safonau a chanllawiau. Fel cynghorwr a hyfforddwr, byddwch yn herio'r broses ymchwiliol ac yn sicrhau bod eich tîm yn tynnu ar arbenigedd a chyngor timau perthnasol i gynorthwyo'u hymchwiliadau.
Fel aelod o'r tîm rheoli gweithrediadol, byddwch yn helpu i adeiladu ein capasiti ymchwiliol trwy ddatblygu sgiliau ymchwiliol ac adnabod meysydd i'w gwella mewn ymarfer ymchwiliol.
O dro i dro byddwch hefyd yn arwain ymchwiliadau eich hun, fel arfer i achosion sy'n neilltuol o gymhleth. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu ag amrediad eang o bobl, fel teuluoedd mewn profedigaeth, swyddogion heddlu a chymunedau lleol. Fel rhan o'n rota 24 awr ar alwad, bydd angen i chi fod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau difrifol ar unrhyw adeg.
Os oes gennych y ddealltwriaeth strategol, gwytnwch, a gallu ymchwiliol i arwain ein timau mewn cyfres o ymchwiliadau proffil uchel, dyma gyfle neilltuol i ddatblygu eich gyrfa reoli a dylanwadu ar newid cymdeithasol. Bydd angen profiad blaenorol arnoch mewn arweinyddiaeth tîm a chynnal ymchwiliadau mewn meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, safonau masnach, cyrff rheoleiddiol, risg, archwilio, profiannaeth, neu orfodaeth.
Gwrandewch ar Susan, arweinydd tîm gweithrediadau:

Byddwch yn arwain ac yn datblygu tîm o ymchwilwyr a phrif ymchwilwyr gan sicrhau eu bod yn cyflawni perfformiad uchel ac yn cynnal ymchwiliadau yn deg, yn drwyadl ac yn annibynnol.
Yn y rôl strategol hon, byddwch nid yn unig yn sicrhau bod ein hymchwiliadau'n cael eu cynnal yn deg ac yn annibynnol i'r ansawdd uchaf, ond byddwch hefyd yn ysgogi perfformiad, cynhyrchiant, ansawdd a chysondeb trwy arweinyddiaeth leol. Byddwch yn rheoli perthnasoedd â phobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwiliadau – fel teuluoedd mewn profedigaeth, heddluoedd, cymunedau a chrwneriaid, a chydweithwyr ar draws ein sefydliad ein hunain. Fel aelod o'n tîm rheoli cenedlaethol, byddwch hefyd yn cyfrannu at gyfeiriad strategol SAYH wrth i ni barhau i esblygu i ateb y galwadau cynyddol ar ein hadnoddau. Fel rhan o'n rota genedlaethol 24 awr ar alwad, bydd angen i chi fod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau difrifol ar unrhyw adeg.
Bydd angen i chi fod yn feddyliwr strategol ac yn arweinydd perswadiol a dylanwadol, â hanes o arwain a gwella cyflawni gweithrediadol. Bydd eich profiad o reoli timau sy'n cyflawni ymchwiliadau neu benderfyniadau apeliadau yn hollbwysig.
Os ydych wedi arfer ag arwain ymchwiliadau mawr mewn unrhyw sector,, dyma gyfle i brofi eich sgiliau dadansoddol ac arweinyddiaeth tra'n helpu i gynyddu hyder yn system gwynion yr heddlu. Gallai hyn fod wedi cael ei fagu mewn meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, safonau masnach, cyrff rheoleiddiol, risg, archwilio, profiannaeth, neu orfodaeth. Yn bwysicaf oll, byddwch wedi ymrwymo i aros yn annibynnol ac yn ddiduedd ac yn gweithredu â chywirdeb, gonestrwydd a chyfiawnder.
Gwrandewch ar Rashpal, rheolwr gweithrediadau:

Wrth weithio o fewn unrhyw un o'r rolau uchod, byddwch yn agored yn rheolaidd i ddeunydd sy'n peri gofid fydd yn debygol o gael effaith, yn drawmatig ac yn heriol. O ystyried natur y gwaith, byddwch yn cael cysylltiad ag unigolion sy'n profi trallod eithafol. Rydym yn cydnabod hyn ac rydym yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’n holl staff, gan gynnwys cymorth cymheiriaid TRiM (Rheoli Risg Trawma), Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim. Mae ein holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gael mynediad rhagweithiol ac ymgysylltu â’r cymorth sydd ar gael.
Hyfforddiant a datblygiad
Mae PIP yn rhaglen ddatblygu strwythuredig sy'n anelu at roi'r sgiliau angenrheidiol i staff ar gyfer cynnal ymchwiliadau proffesiynol. PIP yw’r safon a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer ymchwilwyr, ac mae PIP1 a PIP2 yn cael eu cyflwyno i’n staff. Mae’r cymwysterau hyn yn ofynnol i bob ymchwilydd sy’n ymuno â’n sefydliad, ac ochr yn ochr â chwricwlwm PIP, bydd elfennau o’r rhaglen yn canolbwyntio ar ein gwaith.
Mae gan bob lefel y sgiliau craidd a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer rolau o fewn y lefel honno:
- PIP1 yw sylfaen ymchwiliadau a chaiff ei gwblhau gan Ymchwilwyr ac Ymchwilwyr dan Hyfforddiant.
- Bydd PIP2 yn cael ei gwblhau gan Archwilwyr Arweiniol wrth i'r rhaglen hon adeiladu ar ddatblygiad y sgiliau arwain sydd eu hangen i arwain ymchwiliad. Mae hefyd yn adeiladu ar y sgiliau a'r profiad a ddangoswyd yn PIP1. Bydd PIP2 yn cael ei lansio yn Ionawr 2026.
Mae’r ddwy raglen hyfforddiant yn ymdrin ag agweddau allweddol ar y rôl, gan gynnwys pwerau ymchwilydd SAYH, sgiliau cyfweld ymchwiliol, rheoli lleoliad, gweithdrefnau ar ôl digwyddiad, egwyddorion datgelu ac ysgrifennu adroddiadau. Mae ein prif ymchwilwyr yn derbyn hyfforddiant ychwanegol sy'n cwmpasu pob agwedd ar arwain ymchwiliad, gan gynnwys strategaeth, gwneud penderfyniadau ac ysgrifennu polisi. Er bod y ddwy raglen PIP wedi mabwysiadu ymagwedd gyfunol at hyfforddiant, mae angen hyfforddiant personol a allai olygu aros i ffwrdd o gartref am gyfnod o amser.
Ar ôl cofrestru, disgwylir i'n hymchwilwyr a'n hymchwilwyr dan hyfforddiant gwblhau PIP1 o fewn 12 mis. Disgwylir i ymchwilwyr arweiniol gwblhau PIP2 o fewn amserlen uchafswm o 24 mis. Mae'r ddwy raglen PIP yn ei gwneud yn ofynnol i'n hymchwilwyr fynychu a chwblhau'r holl elfennau hyfforddi, a dangos eu gwybodaeth a'u cymhwysiad ymarferol, trwy bortffolio tystiolaeth sy'n seiliedig ar waith.
Ailddilysu
Ailddilysu yw’r broses rydym wedi’i chynllunio sy’n galluogi ein hymchwilwyr i gynnal eu statws gweithredol PIP a dangos gallu parhaus i gyflawni’r rôl. Bydd disgwyl i'n Hymchwilwyr gymryd rhan yn y broses ailddilysu drwy gydol eu gyrfa ymchwiliol. Gallai methu ag ailddilysu arwain at ymchwilwyr yn cael eu cofrestru fel PIP anweithredol.
Mae ein Hymchwilwyr yn gyfrifol am barhau â'u datblygiad proffesiynol eu hunain a chynnal a gwella cymhwysedd yn eu rôl. Mae datblygiad personol a phroffesiynol yn cael ei gynorthwyo gan ein proses datblygiad personol o'r enw DRIVE. Bydd ein hymchwilwyr hefyd yn cael sgwrs ailddilysu flynyddol ag aelod o dîm Dysgu a Datblygu Ymchwiliadau, lle byddant yn trafod yr hyn y maent wedi'i wneud i gynnal a gwella eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad.
Mae cynnal statws gweithredol PIP yn ofyniad cytundebol ar gyfer yr holl staff sy’n cyflawni rôl Ymchwilydd.