Adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona
Mae ein cynllun strategol, Adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona, yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'r strategaeth i'w chyflawni hi. Mae’n egluro beth fydd ein blaenoriaethau a’r hyn y gobeithiwn ei gyflawni ym mhob un o’r meysydd hynny. Hon fydd y ddogfen arweiniol ar gyfer ein holl waith hyd at 2027.
O dan y strategaeth hon byddwn yn canolbwyntio ar bedwar maes gwaith i sicrhau bod:
- Pobl yn Lloegr a Chymru nid yn unig yn gwybod am y system gwynion a'u hawl i gwyno, ond hefyd yn teimlo'n hyderus i'w ddefnyddio.
- Y system gwynion yn darparu canlyniadau teg sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n dwyn yr heddlu i gyfrif. Bydd hyn yn cynnwys dewis y cymysgedd cywir o waith er mwyn i ni fod yn hyderus ein bod yn creu'r effaith fwyaf, er enghraifft gweithio gyda heddluoedd i'w helpu i gael eu hymdrin â chwynion yn gywir y tro cyntaf
- Ein hannibyniaeth, ein tystiolaeth a'n dylanwad yn gwella plismona.
Ni yn sefydliad sy'n cyflawni perfformiad uchel trwy recriwtio a chadw'r bobl orau ac yn buddsoddi ynddynt i gyflawni ein gwaith pwysig.
Ein strategaeth
Gwyliwch ein fideo i ddysgu popeth am ein strategaeth bum mlynedd - 'Adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona'. Mae'n amlinellu ein hymagwedd at gyflawni ein gweledigaeth trwy ganolbwyntio ar gasglu, blaenoriaethu a gweithredu dysgu.
Fideo cynllun strategol