Mae SAYH yn dechrau ymchwiliad i ddigwyddiad traffig ffordd angheuol yn agos i Gaerdydd
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) wedi dechrau ymchwiliad annibynnol i gysylltiad Heddlu De Cymru yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol ar ffordd ymadael Cyffordd 30 tua dwyrain yr M4, ar ddydd Iau 9 Ionawr 2025.
Roedd Mordecai Juma, 51 oed, yn teithio tua’r dwyrain ar yr M4 a chymerodd y lôn ymadael tua’r dwyrain tuag at Borth Caerdydd, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 3.30am.
Rydym yn deall bod yr Honda Accord, a yrrwyd gan Modecai Juma, wedi methu â stopio ar gyfer yr heddlu yn flaenorol, a dechreuodd erlid am tua 3.24am, cyn i'r car fod mewn damwain ychydig funudau'n ddiweddarach. Er i gymorth meddygol gael ei roi, yn anffodus bu farw Mr Juma yn y fan a'r lle. Cawsom ein hysbysu gan yr heddlu yn fuan wedyn, gan fod swyddogion wedi bod yn dilyn y cerbyd ar adeg y digwyddiad.
Mae ein hymholiadau cychwynnol wedi sefydlu yr adroddwyd am yrrwr yr Honda Accord am 1.42am am fethu â stopio i’r heddlu ar y B4265 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, tuag at Aberogwr. Roedd gan yr heddlu bryderon am y modd roedd y car yn cael ei yrru, er nad oedd swyddogion yn dilyn y cerbyd ar yr adeg hon.
Ychydig ar ôl 3am, cafodd Heddlu De Cymru ei hysbysu am yr Accord eto ar ôl gweithrediad ANPR ym Mhorthcawl. Cafodd unedau heddlu amrywiol y dasg o geisio dod o hyd i'r cerbyd ac ar ôl ei weld ymhellach ar yr M4, awdurdodwyd dilyn gan yr heddlu. Parhaodd hyn ar hyd lôn ddwyreiniol y draffordd, nes i’r Accord adael yr M4 wrth Borth Caerdydd, pan fu’r car mewn gwrthdrawiad â chylchfan.
Rhoddodd swyddogion gymorth cyntaf ar ôl y gwrthdrawiad, ond yn anffodus cyhoeddwyd bod Mr Juma wedi marw ychydig ar ôl 4am.
Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwiliadau SAYH Catherine Bates: “Yn gyntaf, mae fy meddyliau a’m cydymdeimlad â theulu Mr Juma a phawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn. Rydym wedi cysylltu â theulu Mr Juma i egluro ein rôl a byddwn yn parhau i’w diweddaru wrth i’n hymholiadau barhau.”
“Cyn gynted ag y gwnaeth Heddlu De Cymru ein hysbysu o farwolaeth Mr Juma, aeth ymchwilwyr SAYH i leoliad y gwrthdrawiad a gweithdrefn ôl-ddigwyddiad yr heddlu i ddechrau casglu gwybodaeth.
“Tra bod ein hymchwiliad yn ei gamau cynnar, mae ymchwilwyr eisoes wedi cynnal ymholiadau CCTV ac wedi cael adroddiadau cychwynnol gan y swyddogion dan sylw.”
Mae post-mortem wedi cael ei gynnal.
Mae cwest wedi cael ei agor a’i ohirio yn Llys y Crwner Pontypridd.