Ymchwiliad SAYH yn canfod bod Heddlu De Cymru wedi trin dyn yn briodol cyn marwolaeth yn y ddalfa
Canfu ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) fod swyddogion Heddlu De Cymru wedi delio â dyn, a fu farw ar ôl cael ei gymryd i’r ddalfa, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau.
Cafodd James Barnes, 45 oed, ei arestio am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A tua 8pm ar 20 Medi 2022, yn Nhrefforest a’i gludo i orsaf heddlu Pontypridd, lle cynhaliwyd noeth-chwiliad, a oedd yn negyddol. Yna cafodd ei gludo i’r ddalfa yng ngorsaf heddlu Bridewell Merthyr, gyda’i gadw yn y ddalfa wedi’i awdurdodi ychydig cyn 10.30pm. Nododd asesiad risg a gynhaliwyd ar y pryd fod Mr Barnes yn bwyllog ac yn cydymffurfio, ac yn siarad yn glir â staff y ddalfa.
Tra yn y ddalfa, cafodd Mr Barnes ei roi ar wiriadau lles i'w cynnal bob hanner awr. Am tua 4.30am y diwrnod canlynol, cafodd drawiad. Darparodd staff y ddalfa a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gymorth meddygol a galw am ambiwlans. Cafodd Mr Barnes ail drawiad tua 5am. Cyrhaeddodd parafeddygon ychydig yn ddiweddarach, ond er gwaethaf ymdrechion pawb, yn anffodus bu farw Mr Barnes yn ystafell y ddalfa tua 6.30am.
Disgrifiodd patholegydd a gynhaliodd archwiliad post-mortem yn ddiweddarach yr achos marwolaeth fel “marwolaeth yn gysylltiedig â thrawiad mewn dyn a oedd wedi cymryd cocên, steroidau anabolig, a chlomiffen.”
Ar ddiwedd cwest saith diwrnod yn Llys y Crwner Pontypridd ddoe (dydd Mawrth) daeth rheithgor i gasgliad ar ganlyniad marwolaeth trwy anffawd. Ar ôl i ni gwblhau ein hymchwiliad ym mis Medi 2023, fe wnaethom rannu ein hadroddiad â Heddlu De Cymru, teulu Mr Barnes, a’r crwner i gynorthwyo â’r cwest yn y dyfodol. Mae cyhoeddi ein canfyddiadau yn gyhoeddus wedi aros am gasgliad y cwest.
Dywedodd Cyfarwyddwr SAYH, Derrick Campbell: “Mae fy nghydymdeimlad yn mynd i deulu a ffrindiau Mr Barnes a phawb yr effeithiwyd arnynt gan ei farwolaeth.
“Ein rôl ni yw ymchwilio’n annibynnol i’r amgylchiadau pan fydd rhywun yn marw yn nalfa’r heddlu. Gwnaethom archwilio gweithredoedd a phenderfyniadau swyddogion, staff a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ystod yr amser roedd Mr Barnes yn y ddalfa ac os oedd y rhain yn cyd-fynd â pholisïau a gweithdrefnau'r heddlu.Canfu ein hymchwiliad fod lefel y gwiriadau gofal a lles a roddwyd i Mr Barnes tra yn y ddalfa yn briodol. Ni welsom unrhyw dystiolaeth a fyddai wedi rhoi arwydd i staff ei fod yn sâl cyn iddo gael y trawiad cyntaf.
“Ni ddaethom o hyd i unrhyw arwydd o gamymddwyn ar ran swyddogion yr heddlu a chawsant eu trin fel tystion drwy gydol ein hymchwiliad.”
Roedd y dystiolaeth yn dangos bod Mr Barnes, na chafodd ei gyhuddo o unrhyw drosedd, yn bwyllog ac yn cydymffurfio yn ystod yr arestiad, cael ei drosglwyddo i'r ddalfa, a thra yng ngorsaf yr heddlu. Dywedodd arbenigwr clinigol, y bu i ni ymgynghori ag ef, y farn, ar sail y noeth-chwiliad negyddol a’r ymatebion a roddodd Mr Barnes yn ystod yr asesiad risg, nad oedd yn teimlo bod unrhyw gyfle i gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nac ymyrraeth amgen wedi’i golli.
Dechreuodd ein hymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad gorfodol gan Heddlu De Cymru. Mynychodd ymchwilwyr y ddalfa a goruchwylio archwiliad manwl. Casglwyd nifer o ddatganiadau tystion gan swyddogion yr heddlu, staff a phersonél meddygol. Fe wnaethom ddadansoddi lluniau CCTV a fideos a wisgwyd ar y corff gan swyddogion heddlu ynghyd â logiau heddlu, adroddiadau patholeg a fforensig, ac asesiad gan arbenigwr gofal iechyd.