Mae ymchwiliad SAYH i weithredoedd yr heddlu cyn marwolaethau dau fachgen yn Nhrelái yn agos at ddod i ben
Mae ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) i'r rhyngweithio rhwng Heddlu De Cymru a dau fachgen yn eu harddegau cyn eu marwolaethau yng Nghaerdydd, yn ei gamau olaf.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, ar ôl i'r beic trydan roeddent yn ei reidio fod mewn gwrthdrawiad yn ardal Trelái o’r ddinas, ar 22 Mai 2023. Dilynodd ein hymchwiliad annibynnol atgyfeiriad gan Heddlu De Cymru (SWP), ar ôl i fan heddlu gael ei ddal ar CCTV yn teithio yn agos y tu ôl i'r beic, cyn y digwyddiad.
Mae'r holl linellau ymholiad ar gyfer ein hymchwiliad bron wedi'u cwblhau. Mae hyn wedi cynnwys cael, coladu ac adolygu swm sylweddol o dystiolaeth megis datganiadau tystion gan gynnwys oddi wrth breswylwyr lleol, archwilio cannoedd o glipiau fideo, ynghyd â fideo wedi'i wisgo ar y corff gan swyddogion heddlu yn y lleoliad. Cafwyd adroddiadau gan y rhan fwyaf o'r swyddogion oedd yn cymryd rhan ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau'r datganiadau sy'n weddill. Yn ogystal, rydym wedi ymgysylltu ag arbenigwyr annibynnol sydd ag arbenigedd mewn rheoli'r heddlu yn dilyn ac archwilio lleoliadau gwrthdrawiadau.
Rydym hefyd yn agosáu at gwblhau ein hail ymchwiliad yn gysylltiedig â'r digwyddiad, oedd wedi'i ganolbwyntio ar gwynion a godwyd gan deuluoedd Kyrees a Harvey. Roedd y cwynion yn cynnwys ymateb yr heddlu a rheoli lleoliad y gwrthdrawiad, sut yr ymdriniwyd â'r teuluoedd yn y lleoliad ar y noson a'r ffordd y cyfathrebodd Heddlu De Cymru â nhw yn dilyn marwolaethau'r bechgyn.
Mis ar ôl y digwyddiad, gwnaethom gyflwyno hysbysiadau camymddwyn difrifol i yrrwr a theithiwr y fan heddlu. Yn Awst y llynedd, fe wnaethom hysbysu gyrrwr fan yr heddlu ei fod yn destun ymchwiliad troseddol am yrru'n beryglus. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd unrhyw achos disgyblu na throseddol yn dilyn.
Dywedodd Cyfarwyddwr y SAYH David Ford: “Wrth i ni agosáu at un flwyddyn ar ôl i'r digwyddiadau trychinebus ddigwydd ar noson 22 Mai, rwy'n deall y bydd hon yn adeg neilltuol o anodd i deuluoedd Kyrees a Harvey. Felly, byddwn yn gofyn i'r cyfryngau barchu ceisiadau'r teuluoedd am breifatrwydd, fel y gallant gofio'u hanwyliaid, heb ofn nac ymyrraeth. Mae ein meddyliau a'n cydymdeimladau yn parhau i fod â phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan golli bywydau mor ifanc.”
"Rwy'n gwerthfawrogi'r amynedd a ddangoswyd gan y teuluoedd, rhanddeiliaid a chymuned ehangach Trelái dros y deuddeg mis diwethaf wrth i'r ymchwiliadau i sefydlu beth yn union ddigwyddodd fynd rhagddynt. Mae ein hymchwiliadau yn agos at gael eu cwblhau ac er fy mod yn cydnabod y pwysigrwydd o gwblhau ein hymchwiliadau yn llawn, ni ellir peryglu trylwyredd.
"Mae ein diweddariadau rheolaidd i deuluoedd y bechgyn a Heddlu De Cymru yn parhau wrth i ni agosáu at ddiwedd y ddau ymchwiliad. Yn dilyn eu cwblhau, byddwn yn cymryd penderfyniadau am unrhyw atgyfeiriadau posibl at Wasanaeth Erlyn y Goron i ystyried achosion troseddol posibl, yn ogystal â materion disgyblaethol posibl i'r dyfodol. Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw welliannau a dysgu a all fod wedi cael eu hadnabod yn ystod ein hymchwiliadau, naill ai ar gyfer swyddogion unigol, neu Heddlu De Cymru ar sail llu cyfan.