Canfyddiadau ymchwiliad yr IOPC i gwynion a wnaed gan deulu Christopher Kapessa
Yn dilyn cyfres o gwynion a wnaed gan fam Christopher Kapessa, fe wnaethom gynnal ymchwiliad trylwyr i’r camau a gymerodd Heddlu De Cymru ar ôl codi corff Christopher o Afon Cynon, lle y boddodd yn drasig ym mis Gorffennaf 2019
Canfu ein hymchwiliad rai diffygion yn y ffordd yr ymdriniodd yr heddlu â theulu Christopher ac yn benodol, y gallai cyfathrebu swyddogion â nhw fod wedi bod yn well. Fodd bynnag, ni chanfuom unrhyw sail dros ddwyn achos disgyblu yn erbyn unrhyw un o'r swyddogion dan sylw.
Roedd y cwynion yn cynnwys bod Heddlu De Cymru wedi dod i’r casgliad anghywir, ac o fewn 24 awr, bod marwolaeth Christopher yn ‘ddamwain drasig’. Cwestiynodd ei deulu a oedd ymchwiliad cywir a thrylwyr wedi'i gynnal gan yr heddlu a theimlent eu bod wedi cael eu trin yn ansensitif oherwydd eu hethnigrwydd. Roeddent hefyd yn cwyno nad oedd swyddogion wedi ateb cwestiynau rhesymol yr oeddent wedi'u gofyn.
Ni chadarnhaodd ein hymchwiliad, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2019, y gŵyn bod swyddogion wedi dod i’r casgliad bod Christopher wedi marw o ganlyniad i ddamwain heb ymchwiliad priodol. Mae’r dystiolaeth yn dangos y gallai sylwadau a wnaed mewn cyfarfod cychwynnol rhwng perthnasau Christopher a swyddogion fod wedi creu’r argraff hon, a oedd yn destun gofid. Roedd cyfrifon tystion a logiau heddlu yn dangos sut y parhaodd swyddogion i archwilio damcaniaethau, cynnal ymholiadau ac ymchwilio i’r digwyddiad am nifer o wythnosau ac felly, nid oeddem o’r farn bod yr ymchwiliad wedi’i gwblhau’n gynamserol.
Gan ystyried canfyddiad teulu Christopher bod yr ymchwiliad i’w farwolaeth wedi dod i ben yn gynamserol, ynghyd â rhai cyfnewidiadau cynnar anodd gyda swyddogion heddlu, mae’n ddealladwy fod ganddynt amheuon o duedd hiliol. Fodd bynnag, roedd yr ymchwiliad marwolaeth mewn gwirionedd yn parhau ac nid yw’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein hymholiadau’n awgrymu bod teulu Christopher wedi cael eu trin yn llai ffafriol gan yr heddlu oherwydd eu hil.
Canfuom y gallai’r cyfathrebu rhwng yr heddlu a theulu Christopher fod wedi bod yn well. Nid oedd y swyddogion a fynychodd gyfarfod cychwynnol â'r teulu ar 2 Gorffennaf wedi'u briffio'n dda nac yn y sefyllfa orau i ateb eu cwestiynau. Byddai strategaeth gyfathrebu glir ar yr ymweliad cyntaf hwnnw wedi bod yn ddymunol, o ystyried natur drawmatig y digwyddiad, y nifer fawr o bobl a oedd ynghlwm, a lefel y diddordeb cymunedol.
Fe wnaethom gadarnhau un gŵyn, a oedd yn canolbwyntio ar gyfarfod arall rhwng teulu Christopher a Heddlu De Cymru. Daeth hyn i anghytundeb, pan leisiodd ei deulu bryderon dro ar ôl tro am hiliaeth bosibl gan yr heddlu. Roeddem o’r farn bod dull swyddog heddlu yn y cyfarfod hwnnw yn annoeth ac yn ansensitif, yn enwedig o ystyried y gofid a’r trallod yr oedd y teulu’n ei brofi. Er na wnaethom ganfod achos disgyblu i'w ateb, gwnaethom argymell camau rheoli i'r swyddog dan sylw, a hyfforddiant ychwanegol ar ymdrin â theuluoedd mewn profedigaeth, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a thuedd anymwybodol.
Wrth archwilio pob cwyn unigol, gwnaethom ystyried a oedd Heddlu De Cymru yn dilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol. Cawsom adroddiadau gan bymtheg o swyddogion dan sylw, ac adolygwyd eu hymddygiad, cynnydd yr ymchwiliad, a rhyngweithio'r heddlu â'r teulu yn gynhwysfawr.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: “Roedd hwn yn achos torcalonnus pan gollodd bachgen 13 oed ei fywyd ac mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu, ffrindiau Christopher a phawb yr effeithiwyd arnynt gan ei farwolaeth.
“Ar ôl i’n hymchwiliad gael ei gwblhau ym mis Chwefror 2021, fe wnaethom roi manylion ein canfyddiadau i deulu Christopher ac esbonio’r rhesymeg y tu ôl i ganlyniadau’r gŵyn.
“Er ei bod yn amlwg y gallai ac y dylai agweddau ar gyfathrebu â theulu Christopher fod wedi cael eu trin yn well gan Heddlu De Cymru, ni chanfuom unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau dwyn unrhyw gamau disgyblu yn erbyn swyddogion unigol. Fe wnaethom rannu meysydd ar gyfer dysgu a gwelliannau posibl â'r heddlu, a oedd yn canolbwyntio ar gyfathrebu'n briodol â theuluoedd mewn profedigaeth. Gall cyfathrebu eglurach o’r cychwyn fod wedi rhoi mwy o eglurder i deulu Christopher ar adeg pan oedd ei angen fwyaf arnynt. Yn ogystal, gwnaethom argymell adolygiad o bolisïau a chanllawiau'r heddlu ynghylch ymchwiliadau i farwolaethau sydyn. Derbyniodd a gweithredodd Heddlu De Cymru ein hargymhellion.”
“Rydym yn gobeithio y bydd diwedd achos cwest yn helpu i ateb rhai o gwestiynau’r teulu am farwolaeth Christopher”.