Ymchwiliad SAYH i'r modd yr ymdriniodd yr heddlu ag adroddiadau am bobl ar goll cyn canfod cerbyd a phobl ynddo yng Nghaerdydd yn hwyr

Published: 29 Feb 2024
News

Mae ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) i weithredoedd yr heddlu ar ôl i grŵp o bobl ifanc gael eu hadrodd ar goll, cyn i gar a’i yrrwr a’i deithwyr gael eu canfod yn ardal Llaneirwg, Caerdydd, yn hwyr.

Yn anffodus bu farw tri aelod o’r grŵp, Eve Smith, Darcy Ross a Rafel Jeanne, tra dioddefodd ddau arall anafiadau difrifol. Cawsant eu darganfod y tu mewn i Volkswagen Tiguan yn fuan wedi hanner nos ar 6 Mawrth 2023, mewn ardal goediog oddi ar yr A48, bron i ddau ddiwrnod ar ôl clywed gan unrhyw un o’r grŵp. Roedd perthnasau’r rhai a fu farw wedi adrodd bod pob un ohonyn nhw ar goll ar 4 Mawrth. 

Ers i ni ddechrau ein hymholiadau, rydym wedi casglu a dadansoddi swm sylweddol o dystiolaeth ac rydym wedi cyflwyno hysbysiadau i saith o swyddogion Heddlu Gwent, yn eu hysbysu eu bod yn destun ymchwiliad. 

Yn ystod y misoedd diwethaf rydym wedi ehangu cwmpas ein hymchwiliad, ar ôl ystyried cwynion manwl a wnaed gan deuluoedd y bobl ifanc dan sylw. Rydym yn gwneud gwaith ychwanegol i ymchwilio i’r cwynion hynny sy’n ymwneud â’r modd yr ymdriniodd yr heddlu â’r ymchwiliadau i bobl ar goll a chyfathrebu â’r teuluoedd yn lleoliad y gwrthdrawiad.

O ran y rhybuddion disgyblu a gyflwynwyd: 

  • dau swyddog yn ymwneud â'u hadolygiad o adroddiadau pobl ar goll – un swyddog ar gyfer camymddwyn posibl ac un arall, a oedd wedi'i gyflwyno'n flaenorol ar lefel camymddwyn, nawr am gamymddwyn difrifol posibl. 
  • un swyddog ar gyfer camymddwyn difrifol posibl yn ymwneud â’i gyfathrebu wyneb yn wyneb ag aelodau o’r teulu mewn gorsaf heddlu a sut y gwnaethant ddelio â’r wybodaeth a dderbyniwyd. 
  • dau swyddog ar lefel camymddwyn difrifol ynghylch a wnaethant gynnal chwiliadau o gartrefi dau o'r bobl yr adroddwyd eu bod ar goll - mae un o'r swyddogion hyn hefyd yn destun ymchwiliad troseddol am honni iddo ffugio ei ddatganiad tyst.
  • dau swyddog ar lefel camymddwyn yn ymwneud â sylwadau honedig a wnaed yn lleoliad y gwrthdrawiad.

Nid yw cyflwyno'r rhybuddion hyn o reidrwydd yn golygu y bydd achos disgyblu neu droseddol yn dilyn.                                                                                            

Dywedodd Cyfarwyddwr SAYH David Ford “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau â theuluoedd a ffrindiau’r bobl ifanc a gollodd eu bywydau yn drasig, y rhai a adawyd wedi’u hanafu’n ddifrifol, a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn.

“Ers dechrau ein hymchwiliad, rydym wedi ehangu ein gwaith i ymchwilio i nifer o gwynion manwl gan y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. O ganlyniad, mae saith o swyddogion Heddlu Gwent wedi cael gwybod eu bod yn destun ymchwiliad. Rydym yn parhau i ddadansoddi swm sylweddol o dystiolaeth ac yn asesu os oedd gweithredoedd yr heddlu yn dilyn yr adroddiadau person coll yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol. Ar ddiwedd ein hymchwiliad, byddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylai unrhyw swyddog wynebu achos disgyblu ac a ddylai unrhyw faterion gael eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron.

“Er ein bod wedi gwneud gwaith ychwanegol i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd, byddwn yn cwblhau ein hymchwiliad cyn gynted â phosibl. Mae’n bwysig i bawb dan sylw fod ein hymchwiliad annibynnol yn gynhwysfawr ac yn drylwyr.”

Yn ystod yr ymchwiliad, rydym wedi cynnal cyfweliadau ac wedi cymryd datganiadau gan aelodau o’r teulu, personél heddlu perthnasol gan gynnwys swyddogion a fynychodd leoliad y gwrthdrawiad, y rhai a gymerodd yr adroddiadau person coll, staff yr ystafell reoli, a swyddogion a adolygodd ac a benderfynodd ar y graddau asesu risg.  

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol