Ymchwiliad i’r modd yr ymdriniodd Heddlu De Cymru â digwyddiad trais domestig cyn llofruddiaeth menyw

Published: 02 Nov 2018
News

Rydym yn ymchwilio i gŵyn am y modd yr ymdriniodd Heddlu De Cymru â digwyddiad trais domestig cyn llofruddiaeth menyw.

Cafodd Terrie-Ann Jones, 33, ei llofruddio gan ei chyn-bartner John Lewis yn ei chartref yng Nghimla, Castell-nedd Port Talbot, ar 5 Ionawr 2018.

Daw ein hymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu De Cymru ym mis Medi ar ôl i deulu Ms Jones gwyno am y ffordd yr ymdriniwyd â digwyddiad yn ymwneud â’r cwpl gan swyddogion heddlu ym mis Awst 2017.

Byddwn hefyd yn ymchwilio i sut yr ymdriniwyd â chwynion y teulu, a godwyd gyntaf ym mis Ionawr 2018, gan Heddlu De Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol yr IOPC, Catrin Evans: “Mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau Ms Jones ar yr adeg anodd hon. Rydym wedi cysylltu â’i theulu a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ein cynnydd.

“Bydd ein hymchwilwyr yn archwilio’r digwyddiad fis Awst diwethaf ac os dilynodd Heddlu De Cymru bolisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.”

Cafwyd John Paul Lewis, 56, yn euog o lofruddio Terrie-Ann Jones yn Llys y Goron Abertawe ym mis Gorffennaf. Cafodd ddedfryd am oes, â lleiafswm tymor o 19 mlynedd.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol