Swyddog Heddlu De Cymru i fod yn y llys wedi ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder

Published: 15 Aug 2023
News

Mae disgwyl i swyddog Heddlu De Cymru sy’n gwasanaethu ddod ger bron Llys Ynadon Casnewydd ar gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder a throseddau eraill, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). 

Mae PC Paul Higgins, 41 oed, i ymddangos yn y llys ddydd Iau 17 Awst ar ôl cael ei gyhuddo hefyd o dri chyhuddiad o fynediad heb awdurdod i systemau cyfrifiadurol a data’r heddlu, ac un cyhuddiad o arfer pwerau heddlu’n amhriodol. 

Daw’r cyhuddiadau o ganlyniad i ymchwiliad gan yr IOPC ar ôl i atgyfeiriad gael ei dderbyn gan Heddlu De Cymru am ymddygiad PC Higgins ym mis Mai 2021. Honnir bod y swyddog wedi dilyn perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol â menyw a oedd yn ddioddefwr trosedd yr oedd wedi cyfarfod â hi drwy ei ddyletswyddau. Honnir ei fod wedi rhoi gwybodaeth anghywir i gydweithwyr, goruchwylwyr ac ymchwilwyr yr IOPC ac wedi annog y fenyw i roi’r un adroddiad ffug i’r IOPC mewn ymgais i wyrdroi cwrs cyfiawnder. Yn ogystal, mae hefyd wedi’i gyhuddo o gael mynediad at systemau’r heddlu ar gyfer gwybodaeth heb ddiben plismona,

Awdurdodwyd y cyhuddiadau gan Wasanaeth Erlyn y Goron ar ôl i ni drosglwyddo ffeil o dystiolaeth yn dilyn cwblhau ein hymchwiliad ym mis Chwefror 2023. 

Mae Heddlu De Cymru wedi ein hysbysu bod y swyddog yn parhau i fod wedi ei wahardd.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Llygredd a cham-drin pŵer