Mae ymchwiliad yr IOPC i weithredoedd yr heddlu cyn marwolaethau dau fachgen yn Nhrelái yn cychwyn ar gyfnod newydd

Published: 31 Aug 2023
News

Mae ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i’r rhyngweithio rhwng Heddlu De Cymru a dau fachgen yn eu harddegau cyn eu marwolaethau yn Nhrelái, Caerdydd, yn parhau.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, ar ôl i’r e-feic roedden nhw’n reidio arno fod mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden, ar 22 Mai.

Mae ein hymchwiliad annibynnol yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu De Cymru (SWP), oherwydd y ffaith bod fan heddlu wedi’i gweld ar CCTV yn teithio’n agos y tu ôl i’r beic ychydig amser cyn y digwyddiad.

Mae gyrrwr fan yr heddlu nawr wedi cael gwybod ei fod yn destun ymchwiliad troseddol am yrru'n beryglus. Cyflwynwyd hysbysiad camymddwyn difrifol iddo yn flaenorol, ynghyd â'r teithiwr yng ngherbyd yr heddlu, yn eu hysbysu eu bod yn destun ymchwiliad.

Dylid pwysleisio nad yw cyflwyno rhybuddion a llythyr troseddol o reidrwydd yn golygu y bydd achos disgyblu neu droseddol yn dilyn. Bydd penderfyniad ynghylch achosion disgyblu posibl ac unrhyw atgyfeiriad i Wasanaeth Erlyn y Goron, yn cael ei wneud ar ddiwedd yr ymchwiliad.

Mae ein hymchwiliad annibynnol, a ddechreuodd dri mis yn ôl, yn edrych ar natur y rhyngweithio rhwng yr heddlu a’r bechgyn cyn y gwrthdrawiad a pha mor briodol oedd penderfyniadau a gweithredoedd y swyddogion. Ystyriaeth allweddol yw os oedd unrhyw bwynt pan oedd penderfyniadau a gweithredoedd swyddogion yn fan yr heddlu yn erlid. Mae Heddlu De Cymru yn parhau i gydweithredu â’n hymchwiliad.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cwblhau ein holl ymholiadau yn yr ardal ac wedi cael nifer o ddatganiadau gan drigolion lleol.

Mae ymchwilwyr yr IOPC yn parhau i archwilio cannoedd o glipiau fideo rydym wedi’u casglu o ganlyniad i’n hymholiadau o dŷ i dŷ mewn tai yn Nhrelái. Yn ogystal â'r trywyddau ymholi hyn, rydym wedi adolygu fideo a wisgwyd ar y corff gan swyddogion a fynychodd y lleoliad ac rydym wedi cymryd datganiadau gan swyddogion heddlu a staff perthnasol. 

Cyfarwyddwr yr IOPC David Ford: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau â theulu a ffrindiau Kyrees a Harvey a phawb yr effeithiwyd arnynt gan golli dau fywyd ifanc yn Nhrelái. Mae ein hymchwiliad annibynnol yn parhau’n dda ac rwyf am ddiolch unwaith eto i’r gymuned leol am y gefnogaeth a ddarparwyd i’n hymchwiliad, gan gynnwys drwy rannu tystiolaeth CCTV. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i fynychu cyfarfod diweddar y Grŵp Cyfeirio Cymunedol, a gwerthfawrogir eich mewnbwn, help a chymorth”.

“Byddem yn dal i annog unrhyw un sy’n credu bod ganddynt wybodaeth ddefnyddiol i ddod ymlaen atom. Rydym yn parhau i ymgysylltu ag arweinwyr cymunedol lleol a swyddogion etholedig i ddarparu diweddariadau ar ein hymchwiliad”. 

“Hoffwn bwysleisio eto ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i sefydlu ffeithiau’r hyn a ddigwyddodd”.

“Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd i deuluoedd Kyrees a Harvey, i’w gwneud yn ymwybodol o ddatblygiadau yn yr ymchwiliad.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ffilm ffonio’r IOPC ar ein rhif llinell ddigwyddiadau: 0300 3030771 neu e-bostio:  [email protected]

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Digwyddiadau traffig ffyrdd