Honiad o rym gormodol gan swyddog Heddlu De Cymru ar Mohamud Hassan heb ei brofi

Published: 08 Nov 2023
News

Derbyniodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) atgyfeiriad oddi wrth Heddlu De Cymru yn Ionawr 2021, a arweiniodd at ein hymchwiliad i weithredoedd swyddogion yn ystod arestio a chadw Mohamud Mohamed Hassan. Cafodd Mr Hassan ei ryddhau yn ddigyhuddiad o ddalfa'r heddlu am tua 8.30 am ar 9 Ionawr y flwyddyn honno ac yn anffodus bu farw ar ôl 10 pm mewn tŷ yng Nghaerdydd y noson honno.

Gwnaethom edrych yn benodol ar y cyswllt a gafodd yr heddlu â Mr Hassan, gan gynnwys a ddefnyddiwyd grym yn ystod ei arestio a'i gadw ac os felly, os oedd yn rhesymol, yn angenrheidiol ac yn gymesur o dan yr amgylchiadau. 

Dywedodd Cyfarwyddwr SAYH, David Ford:

“Yn dilyn diwedd ein hymchwiliad yng Ngorffennaf 2022 ac wedi ystyried y dystiolaeth a gafwyd yn ofalus, fe wnaethom benderfynu bod gan ringyll heddlu achos disgyblu i'w ateb am gamymddwyn difrifol dros y grym a ddefnyddiwyd yn ystafell y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd. 

“Ar ddiwedd gwrandawiad disgyblu heddiw (dydd Mercher), a gynhaliwyd ym mhencadlys yr heddlu, a’i oruchwylio gan gadeirydd â chymwysterau cyfreithiol, darganfuwyd nad oedd yr honiad o ddefnyddio grym diangen gan ringyll yr heddlu ar Mr Hassan wedi’i brofi. 

“Ein rôl ni fu archwilio gweithredoedd, penderfyniadau ac ymddygiad swyddogion yr heddlu dan sylw. Dim ond panel camymddwyn yr heddlu, dan arweiniad cadeirydd annibynnol sydd â chymwysterau cyfreithiol, all benderfynu a gafodd yr achos ei brofi neu beidio. 

“Ers cwblhau ein hymchwiliad, fe wnaethom rannu ein hadroddiad â’r crwner i gynorthwyo â gweithrediadau’r cwest. Mater i’r cwest sydd i ddod fydd penderfynu sut yn union y bu farw Mr Hassan ac erys ein meddyliau â’i deulu, a phawb yr effeithiwyd arnynt gan ei farwolaeth.”

O ran y swyddogion heddlu eraill roeddem wedi cyflwyno hysbysiadau iddynt yn ystod ein hymchwiliad, canfuom fod gan un cwnstabl heddlu achos i’w ateb am gamymddwyn ynghylch gwybodaeth a oedd yn berthnasol i les Mr Hassan nad oedd o bosibl yn cael ei chyfleu i staff y ddalfa. Ni wnaethom ganfod unrhyw achos i'w ateb ar gyfer unrhyw swyddogion eraill dan sylw, ond argymhellwyd bod angen i swyddog y ddalfa a chwnstabl heddlu gymryd rhan yn y broses adolygu arfer myfyriol. Roedd hyn er mwyn myfyrio ar ba mor ddigonol oedd y gwiriadau lles a gynhaliwyd ganddynt tra roedd Mr Hassan yn y ddalfa.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Defnydd o rym a phlismona arfog