Diweddariad ar ymchwiliad i ddigwyddiadau cyn marwolaethau dau berson yn eu harddegau yn Nhrelai
Mae ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i ryngweithio’r heddlu â dau berson ifanc yn eu harddegau cyn eu marwolaethau yn Nhrelai, yn parhau.
Fe wnaethom ddechrau ymchwiliad yn gynharach yr wythnos hon (dydd Mercher) ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gan Heddlu De Cymru, oherwydd lluniau CCTV yn dangos fan heddlu wedi’i farcio yn gyrru y tu ôl i feic trydan y bechgyn, mewn stryd gyfagos, ychydig cyn y gwrthdrawiad ar 22 Mai.
Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal ymholiadau helaeth o dŷ i dŷ ar strydoedd yn Nhrelai ac wedi bod yn casglu gwybodaeth gan drigolion lleol a lluniau CCTV. Rydym yn adolygu cyfrifon cychwynnol gan y swyddogion heddlu dan sylw. Rydym wedi cysylltu â theuluoedd Kyrees Sullivan a Harvey Evans, a gollodd eu bywydau yn y digwyddiad yn anffodus.
Rydym yn ymchwilio i:
natur y rhyngweithio rhwng yr heddlu a’r ddau fachgen cyn y gwrthdrawiad a phriodoldeb penderfyniadau a gweithredoedd swyddogion yr heddlu
os oedd penderfyniadau a gweithredoedd y swyddogion yng ngherbyd yr heddlu ar unrhyw adeg yn gyfystyr ag erlid
a gafodd y rhyngweithio rhwng swyddogion yr heddlu a’r bechgyn ei adrodd yn briodol gan y swyddogion cyn ac ar ôl y gwrthdrawiad
ac os oedd gweithredoedd a phenderfyniadau Heddlu De Cymru ynghylch y rhyngweithio yn unol â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol.
Cyfarwyddwr yr IOPC David Ford: "Mae ein meddyliau a'n cydymedeimlad yn parhau gyda theulu a ffrindiau Kyrees a Harvey, yn ogystal a phawb yr effeithiwyd arnynt gan golli dau fywyd ifanc mewn cymuned mor glos a Threlai. mae ein hymchwilwyr wedi bod yn cynnal ymholiadau ac yn sicrhau tystiolaeth yn yr ardal gyfagoes lle cynhaliwyd y digwyddiadau, gan siarad a thrigolion lleol, dosbarthu taflenni a chasglu cymaint o wybodaeth berthnasol a phosibl. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am y cydweithrediad a'r cymorth a gawson gan bobl yn y gymuned leol. Byddem yn croesawu unrhyw un nad ydym wedi siarad a nhw eto, sy'n credu bod ganddynt ffilm neu sydd wedi gweld unrhyw beth perthnasol rhwng 5.35pm a 6.10pm ddydd Llun, i ddod ymlaen atom.
“Rydym yn gweithio’n galed i sefydlu union amgylchiadau’r hyn a ddigwyddodd yn y cyfnod yn arwain at y gwrthdrawiad. Hoffwn sicrhau pawb yn y gymuned y bydd ein gwaith yn drylwyr, yn ddiduedd ac yn annibynnol i'r heddlu.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ffilm ffonio’r IOPC ar ein rhif llinell ddigwyddiadau: 0300 3030771 neu e-bostio: [email protected].