Mae SAYH yn ymchwilio ar ôl marwolaeth un o Gaernarfon yn nalfa'r heddlu

Published: 10 Jun 2024
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dynes tra yn nalfa’r heddlu yng Nghaernarfon.

Cafodd Helen Williams, 43 oed, ei harestio gan Heddlu Gogledd Cymru y tu allan i dŷ ym Mangor fore Iau 23 Mai, er mwyn ei galw yn ôl i’r carchar. Cafodd ei chymryd i orsaf heddlu Caernarfon lle cafodd dalfa ei hawdurdodi tua hanner dydd. Arhosodd yn y ddalfa tra'n aros am ymddangosiad yn y llys. Rydym yn deall fod Ms Williams wedi'i gosod ar arsylwadau rheolaidd gan staff y ddalfa a'i bod yn cael ei gweld gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

Tua 4.30pm y diwrnod wedyn, canfuwyd bod Ms Williams wedi cael episod meddygol ac er gwaethaf ymdrechion CPR, a phresenoldeb parafeddygon ac ambiwlans awyr, yn anffodus, cyhoeddwyd ei bod wedi marw tua 5.20pm ar ddydd Gwener 24 Mai.

Ar ôl cael ein hysbysu gan Heddlu Gogledd Cymru ychydig yn ddiweddarach, anfonwyd ymchwilwyr i orsaf heddlu Caernarfon ac at y gweithdrefnau ar ôl digwyddiad i gychwyn ein hymholiadau. Mae ein hymchwiliad yn edrych ar lefel y gofal a ddarparwyd i Ms Williams yn ystod ei chyfnod yn y ddalfa, gan gynnwys penderfyniadau a gweithredoedd swyddogion a staff yr heddlu ac a wnaethant weithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol. 

Mae post-mortem wedi digwydd ac mae profion ychwanegol yn cael eu cynnal. Mae'r crwner hefyd wedi cael ei hysbysu. 

Dywedodd Cyfarwyddwr SAYH, David Ford: “Mae fy nghydymdeimlad â theulu a ffrindiau Ms Williams a phawb sydd wedi’u heffeithio gan ei marwolaeth.

“Mae’n bwysig fod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i sefydlu’r amgylchiadau yn llawn pan mae rhywun wedi marw yn nalfa’r heddlu. Rydym wedi siarad â’r teulu i fynegi ein cydymdeimlad ac egluro ein rôl. Byddwn yn eu diweddaru trwy gydol ein hymchwiliad, ynghyd â’r heddlu a’r crwner.”

Rydym yn cael adroddiadau gan swyddogion a staff dan sylw fel rhan o'n hymholiadau. Rydym hefyd yn gwylio ffilm Teledu Cylch Cyfyng o ystafell y ddalfa a fideo a wisgir ar y corff gan y swyddogion a arestiodd Ms Williams.   

Tags
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol