Swyddog Heddlu Gogledd Cymru i ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ymosod gan achosi gwir niwed corfforol

Published: 29 Dec 2023
News

Fe fydd swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddyn, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH).  

Mae disgwyl i PC Richard Williams, 42 oed, fod yn y llys ddydd Iau 4 Ionawr, i wynebu cyhuddiadau o ymosod gan achosi gwir niwed corfforol a thagu nad yw'n angheuol. Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â grym a gafodd ei ddefnyddio yn ystod arestio dyn ym Mhorthmadog.  

Digwyddodd y digwyddiad ar 10 Mai 2023 yng ngardd tŷ yn y dref.

Dechreuodd ymchwiliad y SAYH yr un mis ar ôl i atgyfeiriad gael ei gyflwyno gan Heddlu Gogledd Cymru. Ar ddiwedd ein hymchwiliad ym mis Tachwedd, fe wnaethom anfon ffeil tystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd ers hynny wedi awdurdodi'r cyhuddiadau yn erbyn y swyddog.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ein hysbysu bod y swyddog yn parhau i fod wedi ei wahardd.

Tags
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Defnydd o rym a phlismona arfog