Ymchwiliad i'r defnydd o rym yn ystod arestiad ym Mhorthmadog
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi penderfynu ymchwilio’n annibynnol i ddigwyddiad yn ymwneud â swyddog ym Mhorthmadog, Gogledd Cymru, ddoe (10 Mai), yn dilyn ein hasesiad o atgyfeiriad gan yr heddlu.
Daethom yn ymwybodol y bore yma (dydd Iau) fod fideo o’r digwyddiad yn cael ei rannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol. Wedi hynny, cyfeiriodd Heddlu Gogledd Cymru y mater atom.
Rydym yn deall fod swyddogion wedi arestio dyn mewn cyfeiriad ar ôl cael ei alw i ddigwyddiad domestig.
Rydym wedi cael gwybod bod y dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty am driniaeth ar ôl yr arestiad cyn cael ei drosglwyddo i'r ddalfa carchar.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: “Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n dal rhan o’r rhyngweithio rhwng swyddogion yr heddlu a’r dyn a arestiwyd, yn ddealladwy, wedi denu cryn ddiddordeb a phryder cyhoeddus. Mae’n bwysig ein bod yn ymchwilio’n drylwyr ac yn annibynnol i’r digwyddiad cyfan, er mwyn sefydlu os oedd lefel y grym a ddefnyddiwyd yn ystod yr arestiad yn rhesymol a chymesur o dan yr amgylchiadau.”