Swyddog Heddlu Gogledd Cymru i ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o niwed corfforol difrifol
Bydd swyddog o Heddlu Gogledd Cymru yn ymddangos yn y llys yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) i’r defnydd o rym ar berson ifanc yn ei arddegau.
Mae disgwyl i Gwnstabl Heddlu Ellis Thomas, 24 oed, ddod gerbron Llys Ynadon Llandudno ar ddydd Mercher 17 Ebrill 2024, i wynebu cyhuddiad o niwed corfforol difrifol yn erbyn bachgen 17 oed. Mae’n ymwneud â digwyddiad a ddigwyddodd ar 29 Ionawr 2023 y tu allan i Glwb Nos Cube ym Mangor.
Dechreuodd ymchwiliad SAYH ym mis Chwefror 2023 ar ôl i atgyfeiriad cwyn gael ei gyflwyno gan Heddlu Gogledd Cymru. Ar ddiwedd ein hymchwiliad pum mis, fe wnaethom anfon ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd ers hynny wedi awdurdodi'r cyhuddiad yn erbyn y swyddog.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ein hysbysu bod y swyddog yn parhau ar ddyletswyddau cyfyngedig.