Diweddariad ar ymchwiliad i'r defnydd o rym yn ystod arestiad ym Mhorthmadog
Mae ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i’r defnydd o rym yn ystod arestiad dyn ym Mhorthmadog yn parhau.
Fe wnaethom ddechrau ein hymchwiliad yn gynharach y mis hwn, diwrnod ar ôl y digwyddiad yn ymwneud â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, ar ôl derbyn atgyfeiriad gan y llu.Rydym wedi sefydlu bod dau swyddog wedi cael eu hanfon i gyfeiriad yn y dref tua 11am ar 10 Mai, yn dilyn adrodd am aflonyddwch. Tua 11.50am daeth y swyddogion o hyd i ddyn yng ngardd tŷ cyfagos a'i arestio. Mae fideo’n dangos swyddog yn taro'r dyn ar ei benben nifer o weithiau, tra ar y ddaear. Defnyddiodd yr un swyddog chwistrell analluogi tuag at y dyn tra roedd yn cael ei roi yng nghefn fan heddlu. Tra ar y ffordd i'r orsaf heddlu, sylwyd bod y dyn yn ymddangos yn sâl a chafodd gymorth cyntaf. Yna cafodd ei gludo mewn ambiwlans i'r ysbyty a chafodd ei ryddhau yn ôl i ddalfa'r heddlu yn ddiweddarach.
Rydym wedi edrych ar fideo a wisgir ar y corff yr heddlu a fideo ffôn o’r digwyddiad. Rydym wedi cymryd datganiadau tystion gan gynnwys gan y dyn a anafwyd, ac wedi dod o hyd i luniau teledu cylch cyfyng perthnasol. Rydym yn archwilio os oedd y grym a ddefnyddiwyd yn gyfiawnadwy, yn gymesur ac yn angenrheidiol, os oedd yr ôl-ofal a ddarparwyd yn dilyn yr arestiad yn briodol, ac os gweithredodd y swyddogion yn unol â’u hyfforddiant a dilyn polisïau a gweithdrefnau Heddlu Gogledd Cymru. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithredu’n llawn â’n hymholiadau.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: “Bu cryn ddiddordeb a phryder cyhoeddus ynghylch y darn o fideo a rannwyd yn eang ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n dangos rhywfaint o’r rhyngweithio rhwng swyddogion heddlu a’r dyn sy’n cael ei arestio. Rydym yn parhau â’n hymchwiliad mewn modd trylwyr ac amserol, gan gasglu ac archwilio ystod o dystiolaeth yn ofalus i sefydlu beth ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad cyfan.
“Yn seiliedig ar y dystiolaeth rydym wedi ei hadolygu hyd yn hyn, rydym wedi cyflwyno hysbysiad testun ymchwiliad troseddol ac hysbysiad camymddwyn difrifol i gwnstabl heddlu. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd achos troseddol neu ddisgyblu yn dilyn. Rydym yn deall fod y swyddog wedi cael ei wahardd gan Heddlu Gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi cyflwyno hysbysiad camymddwyn i gwnstabl heddlu arall ynghylch lefel y gofal a ddarparwyd i’r dyn ar ôl iddo gael ei arestio.”