Llywodraethiant
Mae ein trefniadau llywodraethiant wedi'u cynllunio i gefnogi cyflawni'n pwerau statudol a'n cyfrifoldebau yn effeithiol, sy'n cael eu hamlinellu yn Neddf Diwygio'r Heddlu.
Mae cael llywodraethiant da mewn grym yn ein helpu i gyflawni ein gorchwyl: 'Gwella plismona trwy oruchwyliaeth annibynnol o gwynion am yr heddlu, dal heddlu i gyfrif a sicrhau bod dysgu yn effeithio ar newid er mwyn i bawb allu cael ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.
Y Bwrdd Unedol
Mae ein Bwrdd Unedol yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau priodol mewn grym ar gyfer llywodraethiant da a rheolaeth ariannol o SAYH. Ei brif feysydd ffocws yw pennu a goruchwylio ein strategaeth a darparu cymorth a chyngor i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol (CC) i gyflawni ei gyfrifoldebau.
Mae ei aelodaeth yn cynnwys CC wedi'i benodi gan y goron, sydd yn Gadeirydd iddo, chwe Chyfarwyddwr Anweithredol (NEDs) a'r hyn y cyfeirir atynt fel 'aelodau gweithwyr'. Aelodau gweithwyr yw rhai o'n staff uchaf ac maen nhw'n adrodd i'r CC.
Mae'n rhaid i NEDs fod yn fwyafrif aelodaeth y Bwrdd. Mae NEDs yn benodiadau cyhoeddus, sy'n cael eu penodi i wasanaethu tymor o dair blynedd, er y gall hyn gael ei estyn. Maen nhw'n cael eu penodi gan y Swyddfa Gartref i wasanaethu ar ein Bwrdd Unedol.
- Bwrdd Unedol - Cylch gorchwyl
Mae'n rhaid i'r Bwrdd Unedol a'i dri phwyllgor, a amlinellir isod, lynu at ein dogfennau llywodraethiant sy'n cynnwys y Rheolau Sefydlog a'r Cod Ymarfer, a'r ail yn amlinellu sut mae'r Cyfarwyddwr Cyffredinol a'r bwrdd yn gweithio gyda'i gilydd. Mae'r holl ddogfennau llywodraethiant yn cael eu hadolygu'n flynyddol gan y Bwrdd i sicrhau eu bod yn gwasanaethu'r sefydliad orau.
- Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd - Cylch gorchwyl
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant - Cylch gorchwyl
- Pwyllgor Ansawdd - Cylch gorchwyl
I weld Cofrestr Treuliau, Rhoddion a Lletygarwch y Cyfarwyddwyr a Chofrestr Diddordebau'r Cyfarwyddwr, ewch i'n hymagwedd at dryloywder.
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Ionawr 2024
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Tachwedd 2023
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Hydref 2023
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Medi 2023
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Gorffennaf 2023
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Mhefin 2023
- Cofnodion y Bwrdd Ebrill Unedol 2023
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Mawrth 2023
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Chewfror 2023
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Ionawr 2023
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Rhagfyr 2022
- Cofnodion Cyfarfod Eithriadol y Bwrdd Unedol Rhagfyr 2022
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Tachwedd 2022
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Medi 2022
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Gorffennaf 2022
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Mehefin 2022
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Ebrill 2022
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Mawrth 2022
- Cofnodion y Bwrdd Unedol Chwefror 2022
Rheolau sefydlog - y rheolau mewnol ynghylch sut rydym yn cynnal ein busnes.
Cynllun dirprwyo - yn amlinellu sut y gall y Cyfarwyddwr Cyffredinol ddirprwyo ei bwerau statudol i aelodau tîm SAYH
Cod Ymarfer - mae'n darparu rhagor o wybodaeth am sut mae'r Cyfarwyddwr Cyffredinol a'r Bwrdd yn gweithio gyda'i gilydd.
Yng Ngorffennaf 2018 llofnododd SAYH a'r Swyddfa Gartref ddogfen fframwaith yn amlinellu sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd.
Ein safonau gwasanaeth
Mae ein safonau gwasanaeth yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda chi a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl oddi wrthym.Ein hagwedd at dryloywder
Find out more about our publication scheme and how we strive to be as open and transparent as possible.Gofyn am wybodaeth
You can request information about our work as well as information we may hold about you.Polisïau
Polisi Gwerthuso - Mae'r polisi hwn yn amlinellu sut rydym yn ateb ein rhwymedigaeth statudol fel corff cofnodion cyhoeddus i ddethol cofnodion ar gyfer eu cadw'n barhaol o dan y Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958.
Polisi Cadw a Gwaredu - Mae'r fframwaith hwn yn amlinellu pa mor hir rydym yn cadw cofnodion gweithrediadol a chorfforaethol a phan rydym yn cael gwared â chofnodion yn unol â deddfwriaeth, rheoleiddio a gofynion sefydliadol.
Cyfarwyddyd ar gyfer tystion heddlu mewn ymchwiliadau SAYH.
This is detailed guidance for officers with information on what they can expect when asked to provide a witness account; the information that we will provide to them; and how we will reach decisions on the most appropriate way of engaging with the officer.
Polisi SAYH ar ailagor ymchwiliadau - cyfarwyddyd i gynorthwyo SAYH mewn ymarfer ein disgresiwn i ailagor ymchwiliad a gyflawnwyd yn flaenorol gan un o'n hymchwilwyr neu o dan ein rheolaeth.
Mae ein safbwynt ar ddefnydd yr heddlu o fideo a wisgir ar y corff - yn amlinellu ein barn ar fideo a wisgir ar y corff gan fod ei ddefnydd yn ehangu a chynnig argymhellion ymarferol i heddluoedd yn Lloegr a Chymru.
Polisi ar ymarfer ei bwerau o dan 28A Deddf Diwygio'r Heddlu 2002.
Ymgysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol - Darllenwch ein telerau defnydd cyfryngau cymdeithasol a dysgwch am ein defnydd o gyfryngau cymdeithasol.
Polisi cyhoeddiadau - Polisi ar gyhoeddi adroddiadau ymchwiliadau terfynol a chrynodebau adroddiadau.
Polisi ar enwi swyddogion heddlu a staff - Mae'r polisi hwn yn amlinellu pan gyfeiriwn at swyddog heddlu neu aelod o staff wrth ei enw ef neu hi yn un o'n cyhoeddiadau. Mae'n disgrifio ein safbwyntiau arferol ar gamau amrywiol o'n gwaith, a'r ffactorau y dylai'r penderfynwr priodol eu hystyried wrth benderfynu a ddylid gwyro o hyn.
Protocol cyfryngau SAYH a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu - Mae'n disgrifio rolau a chyfrifoldebau'r SAYH a lluoedd heddlu mewn delio â'r cyfryngau yn ystod ymchwiliad. Mae'r protocol hefyd yn amlinellu ein polisi ar gyhoeddi adroddiadau, yn ogystal ag enwi syddogion yn ystod ymchwiliadau annibynnol ac wedi'u rheoli.
Yng Ngorffennaf 2018 llofnododd SAYH a'r Swyddfa Gartref ddogfen fframwaith yn amlinellu sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd
Memorandam Dealltwriaeth (MOU) rhwng yr IPCC a'r Ombwdsmon Heddlu ar gyfer Gogledd Iwerddon (PONI)
Protocol rhwng SAYH a Chymdeithas Comisynwyr Heddlu a Throseddu (APCC)
Memorandwm Dealltwriaeth (MOU) rhwng SAYH, a HMIC a HMIP - yn amlinellu'r trefniadau gweithio rhwng SAYH, a HMIC a HMIP mewn perthynas ag ymchwiliadau ar y cyd HMIC/HMIP o gyfleusterau dalfa'r heddlu. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer gweithio ar y cyd rhwng y tri sefydliad, sy'n canolbwyntio ar ddiogelu hawliau dynol y rheini a gedwir mewn cyfleusterau cystodol a'u trin â gwedduster a pharch.
Concordat rhwng y Coleg Plismona, Arolygiaeth ei Mawrhydi o Gwnstabliaeth a SAYH - yn amlinellu sut y bydd ein tri sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo gwelliant ac ymarfer gorau yn y gwasanaeth heddlu.
Mae'r Siarter ar gyfer Teuluoedd Mewn Profedigaeth trwy Drychineb Gyhoeddus yn brif argymhelliad o adolygiad Yr Esgob James Jones KBE o brofiad teuluoedd Hillsborough yn 2017.
Mae'r Siarter ar gyfer Teuluoedd Mewn Profedigaeth trwy Drychineb Gyhoeddus yn brif argymhelliad o adolygiad Yr Esgob James Jones KBE o brofiad teuluoedd Hillsborough yn 2017.
Trwy lofnodi'r Siarter hon, rydym yn gwneud ymrwymiad cyhoeddus i ddysgu'r gwersi o drychineb Hillsborough a'i adladd, fel nad yw persbectif y teuluoedd mewn profediaeth yn cael ei golli.