Ymchwil ac ystadegau
Mae ein hymchwil a'n hystadegau yn rhoi cipolwg ar system gwynion yr heddlu a lefelau hyder y cyhoedd ynddi. Rydym yn casglu gwybodaeth am gwynion y mae heddluoedd wedi’u cofnodi, natur marwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu, a data o’n harolygon hyder y cyhoedd.
Mae casglu'r data hwn yn ein galluogi i sylwi ar dueddiadau a chanolbwyntio ein hadnoddau ar feysydd lle gallai fod angen i heddluoedd wneud newidiadau i wella'r gwasanaeth y maent yn darparu i'w cymunedau.
Ystadegau cwynion yr heddlu
Dysgwch bopeth am gwynion y mae heddluoedd wedi'u cofnodi trwy ddarllen ein hystadegau cwynion heddlu blynyddol. Rydym hefyd yn cynhyrchu bwletinau chwarterol ar gyfer pob heddlu.Ystadegau marwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu
Darllenwch ystadegau ar natur ac amgylchiadau marwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu. Rydym yn cyoeddi’r ystadegau hyn yn flynyddol.Marwolaethau yn y ddalfa a damweiniau a fu bron â digwydd yn nalfa’r heddlu
Read our past reports relating to deaths in custody, as well as near misses in police custody. A study of deaths in custody available to read.
Darllenwch ein hadroddiadau blaenorol yn ymwneud â marwolaethau yn y ddalfa, yn ogystal â damweiniau a fu bron â digwydd yn nalfa’r heddlu. Astudiaeth o farwolaethau yn y ddalfa ar gael i'w darllen.
Digwyddiadau traffig ffyrdd
Read our past reports relating to road traffic incidents.
Darllenwch ein hadroddiadau blaenorol yn ymwneud â digwyddiadau traffig ffyrdd
Defnydd o rym
- Darllenwch ein hadroddiad defnydd o rym 2016 ac argymhellion, sy'n cynnwys dadansoddiad o gwynion, atgyfeiriadau ac apeliadau, ynghyd â mewnwelediad.
- Gweler cipolwg ar y niferoedd yn ein tablau Gwasanaeth Data Sefydliadol.
- Dysgwch fwy am farn a chanfyddiadau’r cyhoedd a phroffesiynol ar y defnydd o rym yr heddlu mewn adroddiad a baratowyd ar ein rhan gan y sefydliad ymchwil cymdeithasol TNS BMRB.
- Lawrlwythwch daflen annog i grwpiau gwirfoddol â chwestiynau i heddluoedd am sut maent yn ymateb i argymhellion.
Hyder y cyhoedd ymhlith pobl â phryderon iechyd meddwl yn system gwynion yr heddlu
Mae ein hadroddiad yn disgrifio canfyddiadau prosiect ymchwil a gomisiynwyd gennym. Fe'i cynhaliwyd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl rhwng Ionawr 2018 a Medi 2018. Nod yr ymchwil oedd archwilio’r hyder sydd gan bobl â phryderon iechyd meddwl yn system gwynion yr heddlu a’u tebygolrwydd, a’u gallu, o ymgysylltu â hi.