Ystadegau marwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu
Mae gan heddluoedd ddyletswydd statudol i gyfeirio pob digwyddiad sy'n ymwneud â marwolaeth neu anaf difrifol atom ni. Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi ystadegau ar natur ac amgylchiadau marwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu. Mae'r rhain yn rhoi cipolwg ar y camau gweithredu sydd eu hangen er mwyn eu hatal rhag cael eu hailadrodd yn y dyfodol.
Rydym wedi cyhoeddi’r ystadegau hyn yn flynyddol ers dros bymtheg mlynedd, ac mae casglu’r data hyn yn darparu set ddiffiniol o ffigurau ar gyfer Lloegr a Chymru. Mae Awdurdod Ystadegau’r DU wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Mae ein hadroddiadau ystadegau marwolaethau blaenorol ar gael ar ein gwefan Archifau Cenedlaethol. Os hoffech adael unrhyw adborth yn ymwneud â’r adroddiad marwolaeth blynyddol, cwblhewch yr arolwg byr hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm ymchwil.
Cyhoeddwyd adroddiad ystadegol blynyddol 2023/24 ar farwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu ar 17 Hydref 2024. Mae’r adroddiad yn cyflwyno ffigurau ar farwolaethau a ddigwyddodd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.