Hyder ac ymgysylltiad y cyhoedd

Rydym yn cynnal arolygon rheolaidd i asesu canfyddiadau'r cyhoedd o'r heddlu, yn ogystal â'u hyder yn system gwynion yr heddlu a'n sefydliad.

Rydym hefyd yn ceisio adborth rheolaidd gan ein rhanddeiliaid i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a lle gallai fod angen gwelliant. Mae'r adborth hwn yn helpu i lunio a llywio ein gwaith ehangach i ddylanwadu ar newidiadau mewn plismona, sicrhau atebolrwydd ac annog arfer gorau a safonau uchel o wasanaeth. Mae'r arolygon wedi bod yn arf pwysig ar gyfer mesur ein cynnydd. 

Traciwr Canfyddiad Cyhoeddus

Rydym yn cynnal arolygon gydag aelodau o'r cyhoedd i ofyn eu barn amdanom ni fel sefydliad ac am system gwynion yr heddlu. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag Yonder, sefydliad ymchwil annibynnol, i gynnal yr arolygon hyn.

Mae’r data a gesglir yn ein galluogi i olrhain lefelau hyder y cyhoedd ac yn rhoi cipolwg manwl ar hyder y cyhoedd yn system gwynion yr heddlu. Mae canlyniadau'r arolwg yn ein helpu i asesu'r effaith y mae ein gwaith yn ei chael. Rydym hefyd yn defnyddio’r data i gefnogi ein gwaith polisi, ymgysylltu a chyfathrebu.

Mae arolygon hyder y cyhoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Darllenwch ein hadroddiad cryno traciwr canfyddiadau’r cyhoedd diweddar

hadroddiad cryno traciwr canfyddiadau’r cyhoedd - 2022/23

Mae rhai o’r canfyddiadau allweddol ar gyfer 2023/24 yn cynnwys: 

  • Mae ymwybyddiaeth o’r SAYH wedi bod yn uwch dros y flwyddyn ddiwethaf nag o’r blaen, gyda dros ddwy draean wedi clywed am y sefydliad. Er gwaethaf y cynnydd hwn, nid yw’r mwyafrif yn gwybod digon am SAYH i ddweud dim am yr hyn y mae’n ei wneud.
  • Mae hyder yn SAYH wedi cynyddu ychydig iawn gyda 40% o ymatebwyr yn hyderus bod SAYH yn gwneud gwaith da.
  • Mae cyd-destun plismona yn parhau i fod yn heriol. Mae straeon newyddion o'r blynyddoedd diwethaf, fel llofruddiaeth Sarah Everard a swyddogion heddlu yn cyflawni gweithredoedd o ymosodiadau rhywiol, wedi arwain at ddifrod dwfn i enw da’r heddlu.
  • Mae’r cyhoedd yn meddwl y gall SAYH gael effaith gadarnhaol ar blismona gydag ychydig dros hanner yn dweud y bydd yn helpu i wella plismona drwy nodi ffyrdd y gall yr heddlu ddysgu o waith SAYH.

Bu cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’r SAYH, er bod gwybodaeth am yr hyn a wnawn yn parhau’n isel – felly mae gennym fwy o waith i’w wneud.

Mae'r Traciwr Canfyddiadau’r Cyhoedd yn rhedeg yn rheolaidd. Rydym yn gofyn cwestiynau craidd sy'n ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • ymwybyddiaeth o SAYH 
  • canfyddiad pobl o'n hannibyniaeth 
  • pa mor debygol mae pobl o wneud cwyn am yr heddlu 
  • eu safbwyntiau am sut mae'r heddlu yn ymdrin a chwynion 

Mae cwestiynau ychwanegol a ofynnwyd yn cynnwys: 

  • tebygolrwydd pobl o adrodd am wahaniaethu hiliol i’r heddlu
  • eu tebygolrwydd o uwchgyfeirio’r mater drwy wneud cwyn i gorff annibynnol neu’r heddlu dan sylw os ydynt yn anfodlon ag ymateb yr heddlu
  • pwysigrwydd canfyddedig rhinweddau allweddol mewn corff goruchwylio heddlu

Ymgysylltu â chymunedau

Dysgwch sut rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau i ddeall ac ymateb i'w pryderon, gan feithrin hyder yn system gwynion yr heddlu.

Arolwg Rhanddeiliaid

Eisiau dysgu beth mae ein rhanddeiliaid yn meddwl am ein sefydliad? Darganfyddwch trwy ddarllen ein hastudiaeth rhanddeiliaid 2022/23, a gynhaliwyd gan Yonder, sefydliad ymchwil annibynnol.

Adroddiad Traciwr Canfyddiadau'r Cyhoedd

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein hadroddiadau Traciwr Canfyddiadau'r Cyhoedd? Cysylltwch â'n tîm ymchwil.