Swyddog Heddlu Gwent i ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o ymosod

Published: 28 Apr 2023
News

Mae disgwyl i swyddog o Heddlu Gwent ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddyn, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Mae disgwyl i PC Gediminas Palubinskas, 33 oed, yn y llys ar 31 Mai, wynebu cyhuddiad o ymosod gan achosi gwir niwed corfforol. Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â'r grym gafodd ei ddefnyddio yn ystod arestio dyn yng Nghasnewydd.

Digwyddodd y digwyddiad ar 9 Gorffennaf 2021 mewn gardd yn Livale Court yn y ddinas.

Dechreuodd ymchwiliad yr IOPC ar ôl i atgyfeiriad ymddygiad gael ei gyflwyno gan Heddlu Gwent. Ar ddiwedd ein hymchwiliad fe wnaethom anfon ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd ers hynny wedi awdurdodi'r cyhuddiad yn erbyn y swyddog.

Mae Heddlu Gwent wedi ein hysbysu bod y swyddog yn parhau i fod wedi ei wahardd.

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Defnydd o rym a phlismona arfog