Cyhuddo Cyn-swyddog Heddlu Gwent o gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus
Mae cyn-swyddog Heddlu Gwent wedi’i gyhuddo o gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus ar ddau gyfrif, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Bydd Cyn-gwnstabl yr Heddlu, Paul Chadwick, 51 oed, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gerbron Llys Ynadon Cwmbrân ddydd Mercher 15 Medi.
Honnwyd ei fod wedi cael perthynas amhriodol am gyfnodau yn ystod 2020, tra’r oedd yn gwasanaethu fel swyddog, gyda dwy fenyw y cyfarfu â nhw fel rhan o’i ddyletswyddau, y naill rhwng mis Ionawr a mis Ebrill, a’r llall rhwng dyddiadau ym mis Mai y llynedd.
Cynhaliodd yr IOPC ddau ymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu Gwent ym mis Mai y llynedd ac atgyfeiriad arall ym mis Tachwedd 2020. Ar ddiwedd ein hymchwiliadau, gwnaethom atgyfeirio ffeil dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron ac mae’r gwasanaeth hwnnw wedi awdurdodi’r cyhuddiadau ers hynny.
Ymddeolodd Mr Chadwick o Heddlu Gwent fis Mehefin 2021.