Goruchwyliaeth
Rydym yn anelu at godi safonau mewn ymdrin â chwynion trwy ein perthynas strategol â lluoedd a chyrff plismona lleol. Byddwn yn dadansoddi data i adnabod patrymau a materion tueddiadau neu berfformiad mewn lluoedd.
Trwy ein gwaith gorychwylio, rydym yn darparu mewnbynnau ymarferydd, gweithdai, hapsamplu a gweithgareddau eraill wedi'u ffocysu i ganiatáu i ni gynhyrchu dogfennau a chyhoeddiadau canllaw, i rannu gwybodaeth, ymarfer effeithiol ac i adnabod gweithgaredd gwella.
Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod y safonau a disgwyliadau a amlinellir yn ein Canllaw Statudol yn cael eu glynu atynt a bod lluoedd yn cael eu dal i gyfrif am sut maen nhw'n ymdrin â chwynion.
Ymyriadau a Gwelliant
Er mwyn cefnogi ein gweledigaeth y dylai fod gan bawb ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu, mae ein tîm Goruchwylio yn cyflawni ymyriadau a gwaith gwella ar draws meysydd gwahanol o'r system gwynion. Mae'r tîm yn dadansoddi gwybodaeth a data a dderbynnir o ffynonellau lluosog er mwyn adnabod tueddiadau cenedlaethol a phynciau craidd i ganolbwyntio arnynt. Y dadansoddiad hwn sy'n ffurfio gwaith prosiect y tîm gyda'n rhanddeiliaid plismona.
- Adroddiad crynodeb gweithdai ymdrin â chwynion 2023
- Adroddiad crynodeb gweithdai ymdrin â chwynion 2022
- Ymarfer Myfyriol 2022
- Adroddiad crynodeb gweithdai Ymarferydd Adolygu 2022
Cylchlythyr
Cynhyrchir ein Cylchlythyr Goruchwylio i roi gwybod i ymdrinwyr â chwynion mewn heddluoedd a chyrff plismona lleol am ein gwaith. Mae hyn yn cynnwys newyddion corfforaethol, cyfarwyddyd, cynghorion, ac atebion i gwestiynau cyffredin a dderbyniwn.