Dysgu'r Gwersi
Mae Learning the Lessons yn anelu at wella polisi ac arfer yr heddlu. Mae'n cynorthwyo gwasanaeth yr heddlu i ddysgu o'n hymchwiliadau ac adolygiadau i gwynion a materion ymddygiad. Mae pob rhifyn o'r cylchgrawn yn canolbwyntio ar thema neilltuol ac yn dod â chyfres o astudiaethau achos ynghyd, gan gynnwys cwestiynau myfyriol ar gyfer y rheini sy'n gweithio mewn plismona. Mae Learning the Lessons ar gyfer swyddogion yn ogystal â staff llinell flaen, a'r rheini sy'n gweithio mewn rolau polisi, dysgu neu reoli mewn plismona.
Ochr yn ochr ag astudiaethau achos, mae'r cylchgrawn yn archwilio gwaith sy'n digwydd ar draws y SAYH, mewn heddluoedd lleol, ac mewn sefydliadau cenedlaethol fel y Coleg Plismona a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Mae'r cylchgrwan yn cael ei gefnogi gan:
Defnyddiwch y tabl ffactor achos i ganfod erthyglau Learning the Lessons ar themâu penodol neu feysydd gweithredu. Mae ein log ymateb llu yn rhestru'r holl gwestiynau myfyriol rydym wedi eu gofyn ar draws holl rifynnau Dysgu'r Gwersi.
Darllenwch y rhifyn diweddaraf
Mae Learning the Lessons rhifyn 44 yn canolbwyntio ar lygredd. Mae ein gwaith ymchwil yn dweud wrthom fod un o’r ffactorau mwyaf syleddol sy’n effeithio hyder ym mhlismona ymhlith y cyhoedd yw clywed straeon am lygredd. Mae’r rhifyn hwn yn codi ymwybyddiaeth am y materion allweddol rydym y neu gweld wrth i ni wneud ein gwaith. Mae e hefyd yn amlygu cyfleoedd dysgu gwirioneddol i helpu gwasanaeth yr heddlu cydnabod, atal a darganfod llygredd o fewn heddluoedd.Mae themau allweddol yn cynnwys camddefnyddio swyddogaethau, cyfrifiaduron, gwybodaeth, cyfryngau cymdeithasol a mwy.
Mae rhifynnau blaenorol o Dysgu'r Gwersi ar gael ar yr Archif Genedlaethol