Y Gyfraith, Adrodd a Monitro


Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth ategol yn nodi dyletswyddau cyffredinol a phenodol y mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus, fel ni, eu cyflawni. Gelwir y rhain yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mae’r Ddeddf hefyd yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu, yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach, ac yn nodi’r gwahanol ffyrdd y mae’n anghyfreithlon i drin rhywun.

Nodau hyn yw y dylai cyrff cyhoeddus:

  • ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt

Mae nodweddion gwarchodedig yn rhinweddau a allai o bosibl arwain at wahaniaethu yn erbyn pobl. Y nodweddion hyn yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.

Adrodd a monitro