Profi camymddwyn difrifol yn erbyn cyn-heddwas yng Ngogledd Cymru a gam-drin ei safle er budd rhywiol
Byddai cyn-swyddog heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei ddiswyddo, pe na byddai wedi ymddiswyddo eisoes, ar ôl i gamymddwyn difrifol gael ei brofi mewn gwrandawiad disgyblu, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Cychwynnoodd ein hymchwiliad yn Hydref 2021 ar ôl i Heddlu Gogledd Cymru atgyfeirio ymddygiad honedig PC John Kelham i'r IOPC. Roedd PC Kelham wedi cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad ar wahân yn ymwneud â menyw fel dioddefwraig agored i niwed o drosedd pan honnwyd ei fod wedi symud ymlaen i gymryd rhan mewn perthynas amhriodol bersonol neu rywiol â hi.
Yn ystod cwrs ein hymholiadau fe wnaethom ganfod y ceisiodd PC Kelham yn gyson i'w pherswadio hi i ddatblygu eu perthynas ymhellach, gan ofyn iddi gyfarfod ag ef ar achlysuron niferus a'i gwneud yn amlwg hefyd ei fod yn ceisio cysylltiad agos iawn â hi. Mewn negeseuon at y fenyw, gwnaeth lawer o sylwadau rhywioledig neu anweddus, cyfeiriodd ar lawer achlysur at ei hymddangosiad neu ddillad ac anfonodd ffotograffau awgrymog o'i hun ati.
Ar ddiwedd ein hymchwiliad ym Mehefin 2022, fe wnaethom ganfod fod gan PC Kelham achos i'w ateb am gamymddwyn difrifol am gysylltiad amhriodol â menyw oedd yn agored i niwed y cyfarfu a hi trwy ei ddyletswyddau. Ymddiswyddodd PC Kelham o'r llu yn Chwefror eleni.
Mewn gwrandawiad a gynhaliwyd ym mhencadlys heddlu Gogledd Cymru a gynhaliwyd gan gadeirydd annibynnol wedi'i gymhwyso'n gyfreithiol heddiw (Dydd Llun), penderfynwyd bod y cyn-swyddog wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol a byddai wedi cael ei ddiswyddo pe na byddai wedi ymddiswyddo eisoes.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol IOPC David Ford: “Disgwylir i swyddogion heddlu ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg ac maent yn cael eu dal i safonau penodol yn briodol pan ddaw i'w rhyngweithiadau â'r cyhoedd.”
“Lle mae swyddog wedi defnyddio'i safle i ddilyn perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol ag un o'r cyhoedd, mae hyn yn cynrychioli camddefnydd o awdurdod er mantais rywiol. Gall y fath ymddygiad achosi niwed sylweddol i ymddiriedaeth a hyder cyhoeddus yn yr heddlu ac mae'n arbennig o ddifrifol lle mae gwrthrych ymddygiad y swyddog yn unigolyn agored i niwed.
"Daeth ein hymchwiliad annibynnol i'r casgliad y camddefnyddiodd y swyddog yn yr achos hwn ei safle trwy ddilyn perthynas amhriodol â menyw agored i niwed yn weithredol
ac mae canlyniad gwarndawiad heddiw yn gwasanaethu i amlygu nad oes gan y fath ymddygiad le mewn plismona."
Cynhaliodd heddlu Gogledd Cymru ymchwiliad ar wahân i ymddygiad PC Kelham.
Bydd Mr Kelham hefyd yn cael ei roi ar restr waharddedig yr heddlu.